Phil Girling
Hyfforddiant Siambr (Offerynnau Taro)
Rôl y swydd: Tiwtor Soddgrwth
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: MA (Cantab), Dip Koln
Yn ogystal â’i rôl fel Prif Soddgrythor Opera Cenedlaethol Cymru, mae Rosie Biss yn mwynhau gyrfa brysur ac amrywiol fel cerddor siambr, unawdydd, prif chwaraewr gwadd, ac athrawes.
Astudiodd Rosie ym Mhrifysgol Caergrawnt a’r Musikhochschule yng Nghwlen o dan Maria Kliegel. A hithau bellach yn addysgwr brwd, mae Rosie yn addysgu soddgrwth a cherddoriaeth siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hyfforddi ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol i Blant, ac yn cynnal dosbarthiadau meistr yn flynyddol yn Cellofest.
Fel datgeiniad a chyn aelod o bedwarawd a thriawd Zehetmair, y Prosiect Cerddoriaeth Ewropeaidd a’r Scottish Ensemble, mae Rosie wedi chwarae ledled neuaddau cyngerdd Ewrop ac America, wedi darlledu ar BBC Radio 3, Classic FM a WDR 3, ac wedi perfformio yn rhai o’r prif wyliau cerdd gan gynnwys Caeredin, Aspen, Verbier a Schleswig-Holstein.
Er mor brysur yw amserlen Opera Cenedlaethol Cymru, gan chwarae ym mhwll y gerddorfa, mewn cyngherddau symffoni a siambr, ac weithiau mewn gwisg a chymeriad fel rhan o’r opera, bu Rosie hefyd yn flaenwr gwadd i adrannau soddgrwth y Royal Philharmonic Orchestra, Halle, Bournemouth Symphony, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC National Orchestra of Scotland, City of Birmingham Orchestra, English National Opera ac Opera North, a’r Royal Northern Sinfonia.
I ffwrdd o’r repertoire clasurol rheolaidd, mae Rosie wedi recordio albymau gyda’r cerddorion gwerin Rachel Unthank a Troy Doockley ac wedi perfformio gyda’r sioe cabaret o’r Almaen ‘Ensemble Extravagance!’.
Mae Rosie yn chwarae ar soddgrwth Rhufeinig tua 1730 gan Gulio Cesare Gigli, a soddgrwth Cymreig 1990 gan Clive Morris.