Elizabeth Atherton
Athrawes y Llais, Tiwtor Opera
Rôl y swydd: Tiwtor Piano
Adran: Piano
Dechreuodd Benjamin Frith, myfyriwr oes y Fonesig Fanny Waterman, ar ei yrfa trwy ennill Cystadleuaeth Concerto Genedlaethol Dudley yn bedair ar ddeg oed, gan berfformio 2il Goncerto Piano Saint-Saens. Penllanw ei wobrau niferus oedd y brif wobr yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Busoni yn Bolzano, a’r Fedal Aur yng Nghystadleuaeth Meistri Piano Artur Rubinstein, gan dderbyn hefyd y wobr arbennig am gerddoriaeth siambr.
Yn dilyn hyn bu’n ymwneud â cherddorfeydd byd-enwog, fel yr IPO, Warsaw Philharmonic, Halle, City of Birmingham Symphony Orchestra a Manchester Camerata ynghyd â theithiau datganiadau o’r Dwyrain pell i Ogledd America. Yn sgil recordiad cyntaf o’r Diabelli Variations (ASV) bu’n cydweithio’n barhaus â Naxos gan gynnwys recordiad llwyddiannus iawn o gylch o goncertos John Field gyda’r Royal Northern Sinfonia, a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar gyda’r Nocturnes a’r Sonatas cyflawn. Derbyniodd ei recordiad unigol o’r hynod bersonol Davidsbündler op. 6 gan Schumann y prif argymhelliad ar raglen Radio 3, CD Review.
Yn ystod hanner olaf ei yrfa bu’n canolbwyntio ar y repertoire siambr, yn bennaf fel pianydd yn y Gould Piano Trio. Mae hefyd wedi ffurfio’r Frith Piano Quartet mentrus a bu’n bianydd gwadd yn y Nash Ensemble.
Mae Benjamin yn teimlo’n agos at ei wreiddiau yn Sheffield, De Swydd Efrog, gyda’i bartner, Heidi Rolfe, a fydd yn ymuno ag ef ar gyfer Diwrnod Deuawd Piano Wigmore.
Dewiswyd recordiad Benjamin o 2il Goncerto Piano CV Stanford gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gan Gramophone fel Disg y Flwyddyn ac mae'n ymddangos gyda Peter Hill ar ddisg pen-blwydd o gerddoriaeth gyflawn Beethoven i bedair llaw.