John Anderson
Tiwtor Obo
Rôl y swydd: Tiwtor Drymiau
Adran: Jazz
Mae Elliot Bennett yn ddrymiwr, clinigwr ac addysgwr sy’n seiliedig yn y DU. Mae wedi perfformio mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd a genres cerddorol, gan weithio gyda phobl fel yr artist a fu’n rhif 1 yn rhestr y gwerthwyr gorau yn y DU, Sian Evans (Kosheen gynt), The Breath (Canwr Gwerin y Flwyddyn, Gwobrau Gwerin 2019 BBC Radio 2), Stuart McCallum (Cinematic Orchestra), Jim Mullen, Bobby Shew, Keith Tippett a llawer mwy. Yn yr un modd, mae ei gyffyrddiad rhythmig i'w glywed ar raglenni dogfen bywyd gwyllt y BBC o 'Portillo goes wild in Spain' gan Michael Portillo, i 'Ella, a Meerkats tale', Natural Worlds.
Mae Slowly Rolling Camera yn brosiect y bu Elliot yn rhan ohono ers 2015. Ers 2013 mae SRC wedi creu llwybr newydd i’w hunain fel un o sêr byd Jazz Ewrop. Maent wedi perfformio'n rhyngwladol, gan gefnogi mawrion fel Robert Glasper Experiment, Maceo Parker a Chick Corea. A hwythau â chontract gydag Edition Records, mae disgwyl i’w pedwerydd albwm gael ei ryddhau y flwyddyn nesaf, ac mae llawer o edrych ymlaen amdano.
Bu Elliot yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2005, a hynny i fyfyrwyr graddau baglor a meistr. Yn yr un modd, mae'n bennaeth drymiau ym Mhrifysgol De Cymru yn addysgu ar y cyrsiau gradd BA a BMus israddedig ac yn diwtor drymiau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gofynnwyd i Elliot gyflwyno ei syniadau mewn amryw glinigau drymiau, gan agor ar gyfer rhai o ddrymwyr gorau'r byd. Yn eu plith mae Steve Smith (Journey), Carl Palmer (Emerson, Lake & Palmer), Ian Thomas (Seal, Eric Clapton), Chad Smith (RHCP), Terry Bozzio (Frank Zappa) a Jo Jo Mayer.