Matthew Scrivener
Tiwtor Feiolin
Wedi’i ganmol am berfformiadau o “spectacular musicianship and technical brilliance” (The Scotsman), “evangelizing urgency” (International Record Review) a “freshness and lucidity” (The Herald Scotland), mae James Willshire wedi ei glodfori am rinwedd a deallusrwydd ei bianyddiaeth, ac mae wedi datblygu enw da am ei ddehongliadau o gerddoriaeth Brydeinig a Ffrengig. Ymddangosodd fel unawdydd yn y Royal Festival Hall, Barbican, Bridgewater Hall, St John's Smith Square, Purcell Room, Palau de la Musica (Petit Palau), Glasgow City Halls, Queens Hall Caeredin, Perth Concert Hall, St George's ym Mryste, Caird Hall a'r Fairfield Halls.
Ac yntau’n arbenigwr yng ngherddoriaeth Debussy, yn 2018 perfformiodd James y cylch cyfan o gerddoriaeth piano unigol y cyfansoddwr. Roedd y cyngherddau hyn, a ddisgrifiwyd gan The Herald Scotland fel “an unmissable opportunity to hear these demanding pieces live”, yn cynnwys cylchoedd cyflawn yn Glasgow a Chaeredin, a chyngherddau unigol yn Leeds International Concert Season ac yn Chetham’s School of Music.
Mae James yn hyrwyddwr brwd dros gerddoriaeth gyfoes, ac wedi rhoi dros 25 o berfformiadau cyntaf y byd o weithiau gan Ronald Stevenson, John McLeod, Rory Boyle, Nicola LeFanu, Robin Holloway, Errollyn Wallen, Thomas Simaku, Jay Capperauld, Jia Chai, Lynne Plowman, David Lancaster, Michael Parkin, Ailís Ní Ríain a David Power. Derbyniodd ei berfformiad o Endlings gan Jay Capperauld gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid yr Alban adolygiad pum seren gan The Herald ac fe’i darlledwyd ar BBC Radio Scotland.