Sidiki Dembele
Tiwtor Offerynnau Taro Byd
Rôl y swydd: Cyfeilydd Llinynnau
Adran: Llinynnau
Astudiodd Rebecca y piano a chyfeiliant piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain; pan oedd yno, enillodd Wobr John Ireland i Gyfeilyddion, a chwaraeodd mewn dosbarthiadau meistr a roddwyd gan William Pleeth, Dorothy Delay, Benjamin Luxon ac eraill. Yn fwy diweddar, chwaraeodd mewn dosbarthiadau meistr ar gyfer cerddorion adnabyddus fel Maxim Vengerov, James Ehnes, Lawrence Power, Leonid Gorokhov, Paul Watkins, Alban Gerhardt, Peter Wispelwey, Leonard Elschenbroich, Daniel Muller-Schott, Rachel Podger a Nicola Benedetti. Mae hefyd wedi gweithio ac wedi rhoi datganiadau gydag amryw chwaraewyr llinynnau, gan gynnwys Janice Graham, Tim Hugh, Leon Bosch a Dominic Seldis.
Mae Rebecca yn gweithio fel un o gyfeilyddion yr adran linynnau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a hefyd fel cyfeilydd i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru; mae’n aml yn cyfeilio i fyfyrwyr mewn gwersi gyda’r athro adnabyddus Itzhak Rashkovsky.
Y tu allan i’r coleg, mae Rebecca yn athrawes, hyfforddwr a chyfeilydd prysur i amrywiaeth eang o gerddorion, gan gynnwys perfformiadau gyda chystadleuwyr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC a Chystadleuaeth Menuhin. Yn fwy diweddar, mae Rebecca yn gweithio fel cyfeilydd preswyl y Cwrs Llinynnau Cenedlaethol a gwnaeth recordiadau ar gyfer yr Associated Board of the Royal Schools of Music.