Huw Warren
Tiwtor Piano Jas, Tiwtor Dawn Gerddorol a Byrfyfyrio Allweddellau
Yn enedigol o Milan, astudiodd Rizzi yn nghonservatoire y ddinas, ac ar ôl graddio, fe’i cyflogwyd fel repetiteur yn yr enwog Teatro alla Scala. Lansiodd ei yrfa fel arweinydd ym 1982 gyda chynhyrchiad o L’ajo nell’imbarazzo gan Donizetti, ac mae bellach wedi perfformio dros gant o operâu, gyda repertoire eang sy’n gyfoethog o weithiau o’r Eidal yn ogystal â phrif weithiau Mozart, Wagner, Strauss, Britten, Mussorgsky, Martinů a Janáček.
Ym is Medi 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Cerdd Opera Rara, cwmni sy’n seiliedig yn y Deyrnas Unedig ac sy’n canolbwyntio ar atgyfodi a dychwelyd i’r repertoire weithiau sydd heb eu darganfod a heb eu gwerthfawrogi’n ddigonol gan gyfansoddwyr amlwg byd opera a rhai sydd wedi’u hesgeuluso. Yn dilyn recordiad newydd yn 2022 o Il Proscritto gan Mercadante, estynwyd y swydd hyd 2025, a bydd y tymhorau sydd i ddod yn cynnwys perfformiadau a recordiadau o weithiau prin gan Donizetti a Halevy. Ers 2015, bu Rizzi yn Arweinydd Llawryfol Opera Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Cerdd (1992-2001 a 2004-8), cyfnod yr ystyrir iddo oruchwylio cynnydd rhyfeddol yn safonau artistig a phroffil rhyngwladol y cwmni.
Mae gan Carlo Rizzi enw da ers amser hir fel un o arweinwyr operatig pennaf y byd, ac mae galw mawr amdano fel artist gwadd yn neuaddau a gwyliau mwyaf blaenllaw’r byd. Mae’r un mor gartrefol yn y tŷ opera ac yn y neuadd gyngerdd, ac mae ei repertoire eang yn cwmpasu popeth o weithiau sylfaenol y canon operatig a symffonig i weithiau prin gan Bellini, Cimarosa a Donizetti, ynghyd â Giordano, Pizzetti a Montemezzi. Gan gyfuno arbenigedd dwfn yng nghelfyddyd y llais, dawn theatrig a sgiliau cydweithio ymarferol y mae wedi’u meithrin dros ddegawdau o brofiad yn theatrau gorau’r byd, caiff ei ystyried gan gantorion a chynulleidfaoedd fel meistr ar y grefft operatig.
Yn 2022/23, bydd yn agor tymor newydd y Metropolitan Opera New York mewn cynhyrchiad newydd o Medea gan Cherubini a bydd hefyd yn atgyfodi Tosca, La Bohème a Don Carlo (Met), ac yn arwain llwyfaniad newydd o Romeo et Juliette gan Gounod yn Opera National de Paris. Y mae hefyd yn arwain atgyfodiadau o Il Trovatore (Opera de Paris), Manon Lescaut (Bayerische Staatsoper) ac Aida (New National Theatre, Tokyo), ac yn arwain cyngherddau symffonig gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd.
Mae catalog recordiau helaeth Carlo Rizzi yn cynnwys recordiadau cyflawn o Faust gan Gounod, Katya Kabanova gan Janáček (yn Saesneg) a Rigoletto ac Un ballo in maschera gan Verdi, y cyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru; a DVD a CD Deutsche Grammophon o La Traviata gan Verdi wedi’i recordio’n fyw yng Ngŵyl Salzburg gydag Anna Netrebko, Rolando Villazon a Cherddorfa Ffilharmonig Fienna; nifer o albymau o ddatganiadau gyda chantorion opera adnabyddus gan gynnwys Joseph Calleja, Juan Diego Florez, Edita Gruberova, Jennifer Larmore, Ernesto Palacio, Olga Borodina a Thomas Hampson, ac yn fwy diweddar, pâr o ddisgiau a enwebwyd am Wobr Gramophone Award ar gyfer Opera Rara gyda Joyce El-Khoury a Michael Spyres. Y mae hefyd wedi gwneud recordiadau o weithiau symffonig gan Bizet, de Falla, Ravel, Respighi a Schubert gyda cherddorfeydd yn cynnwys Cerddorfeydd Ffilharmonig Llundain a’r Iseldiroedd.
Gwyliwch Carlo Talks: On Zingari
Darllenwch adolygiad diweddar Seen and Heard International o Il proscritto, Mercadante, gan Carlo Rizzi ac Opera Rara.