Tori Freestone
Tiwtor Sacsoffon
Astudiodd y pianydd o Brydain, Richard Uttley, ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan raddio o Goleg Clare gyda Dwbl Cyntaf mewn Cerddoriaeth, ac yn Guildhall School of Music and Drama gyda Martin Roscoe. Ac yntau’n nodedig am uniondeb ei ddawn gerddorol fel unawdydd, cerddor siambr ac artist recordio mewn ystod eang o repertoire, mae Richard wedi ei gydnabod am ei ‘musical intelligence and pristine facility’ (International Record Review), ‘amazing decisiveness’, a ‘tumultuous performance’ (Daily Telegraph).
Mae Richard wedi rhyddhau sawl recordiad unigol gan dderbyn canmoliaeth y beirniaid ac mae wedi ymddangos mewn lleoliadau a gwyliau gan gynnwys Auditorium du Louvre, Banff Centre, Bridgewater Hall, Festspiele MecklenburgVorpommern, Gŵyl Cerddoriaeth Gyfoes Huddersfield, Gŵyl Klangspuren, Konzerthaus Berlin, Gŵyl Modulus (Vancouver), Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall a Wigmore Hall, ac mae wedi teithio yn Tsieina a Columbia.
Ym maes cerddoriaeth siambr, mae Richard wedi cydweithio’n helaeth â’r cyfansoddwr-glarinetydd Mark Simpson, y fiolinyddion Savitri Grier a Callum Smart, a’r chwaraewr corn Ben Goldscheider. Mae hefyd yn gweithio gydag artistiaid fel y soddgrythor Leonard Elschenbroich, y trwmpedwr Simon Höfele, y trombonydd Peter Moore, a’r oböydd Olivier Stankiewicz, ac mae wedi cymryd rhan mewn Cerddoriaeth Siambr Agored yn Seminar Rhyngwladol y Cerddorion yn Prussia Cove.
Yn ogystal ag addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Richard yn athro piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac yn addysgu yn y Guildhall School a City, University of London.
Mae ei chwarae wedi’i ddarlledu’n aml ar BBC Radio 3 ac wedi ymddangos ar BBC Two, BBC Four, Classic FM a Sky Arts. Enillodd Gystadleuaeth Piano Cyfoes Prydain yn 2006 a chafodd ei ddethol i’w gynrychioli gan y Young Classical Artists Trust yn 2011.