Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol

  • Dyfarniad:

    Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r  Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    03 Awst 2025

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW04 – UCAS

Cyflwyniad


Trwy gynyrchiadau mewnol y Coleg, lleoliadau yn y diwydiant a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau perthnasol sy’n ymwneud â gwaith y technegydd cynhyrchu ym meysydd theatr, digwyddiadau, ffilm a theledu.

Trosolwg o’r cwrs

Gyda thechnoleg yn greiddiol iddo, mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn amrywiaeth o systemau goleuo, sain a fideo o’r radd flaenaf – sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiannau theatr, digwyddiadau, ffilm a theledu yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU.

Byddwch yn cael dosbarthiadau gan weithwyr proffesiynol blaenllaw sy’n gweithredu yn flaenllaw yn eu maes, ochr yn ochr â nifer o leoliadau cynhyrchu, wedi’u lleoli yn y Coleg a gyda’n partneriaid diwydiant yma yng Nghymru.

Gyda’ch lleoliadau, dim ond un rhan ohono yw datblygu’ch arbenigedd ar gyfer gyrfa dechnegol yn y diwydiannau creadigol. Bydd y profiadau hyn hefyd yn eich helpu i feithrin sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm sy’n hanfodol i ffynnu mewn amgylcheddau cydweithredol.

Ar ôl graddio, gallech ymgymryd â rolau fel trydanwr cynhyrchu, technegydd neu raglennydd goleuo, peiriannydd sain a system, gweithredwr neu raglennydd fideo, ymhlith llawer mwy.


Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mae pob un ond dau o’r modiwlau wedi’u cynllunio i atgynhyrchu’r profiad o ddysgu seiliedig ar waith. Byddwch yn gweithio gyda thechnoleg o’r radd flaenaf yn y diwydiant adloniant megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, oleuadau a chonsolau awtomataidd, systemau sain digidol, taflunio fideo a thrydan cynhyrchu.
  • Byddwch yn hyfforddi gyda thîm o staff sy’n weithwyr proffesiynol medrus iawn yn y diwydiant. Byddant yn cynnig nid yn unig addysgu o’r radd flaenaf mewn arferion gorau cyfredol, ond mentora a chyfleoedd rhwydweithio hefyd.
  • Ar gyfer eich lleoliadau yn yr ail flwyddyn yn y Coleg, cewch rôl gynhyrchu flaenllaw, dan oruchwyliaeth ac arweiniad uwch dechnegydd, gan weithio gyda’r gwahanol dimau technegol (fideo, goleuo, sain) yn ystod cyfnod gosod cynyrchiadau Cwmni Theatr Richard Burton.
  • Trwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff o’r adrannau cynllunio a rheoli llwyfan ac yn rhyngweithio â myfyrwyr o bob rhan o gyrsiau celfyddydau perfformio y Coleg. Bydd y cydweithrediadau hyn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ac empathi o feysydd ymarfer eraill o fewn y celfyddydau creadigol.
  • Bydd eich lleoliad allanol yn digwydd gydag un o’n partneriaid blaenllaw yn y diwydiant, megis Opera Cenedlaethol Cymru, Stage Sound Services, Figure of Eight Events neu Theatr y Sherman. Mae’r cyfle hwn nid yn unig yn rhoi profiad ymarferol yn y byd go iawn i chi, bydd hefyd yn caniatáu i chi gwrdd a chreu rhwydwaith o gysylltiadau o fewn y diwydiant.
  • Am hyd at dair blynedd ar ôl i chi gwblhau eich cwrs, bydd gennych yr opsiwn i ychwanegu at eich cymhwyster. Gallwch wneud hyn trwy gwblhau blwyddyn ychwanegol o astudio i ennill cymhwyster lefel 6 fel rhan o’n cwrs BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol.
  • Byddwch yn cael sgyrsiau gan, ac yn cyfarfod â, gweithwyr proffesiynol y diwydiant o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol, sy’n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad yma yn y Coleg – gan roi cyfle i chi ehangu eich rhwydwaith proffesiynol yn barod ar gyfer eich bywyd ar ôl graddio.
  • Byddwch yn ymweld â chwmnïau theatr lleol, a fydd rhoi syniad i chi o sut beth yw’r diwydiant mewn gwirionedd. Ar adegau, pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau â’r cynhyrchiad a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Wrth i’r byd a’r diwydiant newid, felly hefyd y mae ein haddysgu. Bu newid cyson mewn meysydd megis cynhyrchu digidol a fideo, awtomeiddio, ac yn CBCDC rydym yn addasu ein cwrs yn barhaus i weddu i’r newidiadau hyn, gan gydbwyso sgiliau hen a newydd.

Mae ein graddedigion, sydd allan yn gweithio yn y diwydiant, ar flaen y gad o ran y newidiadau hyn ac maent yn dychwelyd atom i rannu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol â’r myfyrwyr.'
Ian EvansPennaeth Rheoli Llwyfan, CBCDC
‘Yn aml yn fy rôl mae’n rhaid i mi roi timau at ei gilydd a’r man cyntaf y byddaf yn edrych bob amser yw graddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oherwydd fy mod yn gwybod y gallaf ymddiried ynddynt i wneud y gwaith gorau posibl.

Rwy’n gwybod sut fath o hyfforddiant maent wedi’i gael. Rwy’n gwybod beth fydd yn gweithio. Rwy’n gwybod am eu sgiliau a’u hangerdd. Rwy’n sicr o hynny.’
Sarah Hemsley-ColeGraddedig a Chymrawd

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf