

Drama
NEWYDD '25: Salem by Lisa Parry
Trosolwg
Sad 31 Mai & Mer 4 Meh 7pm | Maw 3 & Iau 5 Meh 2pm
Manylion
Amser rhedeg: tua 70 mun
Lleoliad
Prisiau
£7.50 - £15
Oedran
14+
Tocynnau: £7.50 - £15
Gwybodaeth
Capel Salem, Gwynedd. Yn 2025, mae dau genedlaetholwr o Gymry yn cuddio gyda ‘Salem’ - paentiad y maent wedi’i ddwyn o oriel gelf yn Lerpwl er mwyn ail-hawlio celf Cymru. Ym 1908, mae Sydney Curnow Vosper yn paentio, gyda gwrthrychau’r gwaith yn anghydweld â’i weledigaeth. A yw hi byth yn bosibl rhagnodi ystyr darn o waith celf?
Awdur Lisa Parry
Cyfarwyddwr Sara Lloyd
Mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.