Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Drama

NEWYDD '25: Children of the West gan Dipo Baruwa Etti

  • Trosolwg

    Gwen 30 Mai, Llun 2 & Mer 4 Mehefin 7.15pm | Sad 31 Mai & Maw 3 Mehefin 2.15pm

  • Manylion

    Amser rhedeg: tua 70 mun

  • Lleoliad

    Theatr Bute

  • Prisiau

    £7.50 - £15

  • Oedran

    14+

Tocynnau: £7.50 - £15

Lleoliad: Theatr Bute

Gwybodaeth

Mae’r ffiniau wedi cau. Mae’r wlad yn brin ei phoblogaeth. Mae rheidrwydd ar ddinasyddion i gael plant. Mae Nia, sy’n newyddiadurwr amlwg, wastad wedi eistedd ar ben clawdd ar y mater hwn er gwaethaf ei fod yn effeithio ei bywyd hi a’i gŵr. Wrth iddi geisio dianc o’r wlad ac adrodd hanes yr hyn sy’n digwydd mewn cenedl sydd bellach
wedi’i hynysu, caiff ei gorfodi i gwestiynu cost yr hyn y mae’n ei adael ar ôl. Wrth iddi fynd ar y daith hon mae hi, fel pobl eraill - yn amrywio o swyddogion llywodraeth i smyglwyr i gyplau sy’n delio ag anffrwythlondeb - yn gwerthuso ei bywyd mewn perthynas â’r mesurau hyn. Beth mae’n ei olygu i elfen bwysig o’ch bywyd gael ei gorfodi arnoch? Ai dyma’r ffordd gywir i ailadeiladu gwlad? A ddylent gydymffurfio neu wrthryfela?
Drama dystopaidd yw Children of the West sy’n archwilio cariad, bod yn rhiant, ac ewyllys rhydd.

Awdur Dipo Baruwa Etti
Cyfarwyddwr Zoe Templeman Young

Cydweithrediad â Paines Plough

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir