Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Theatr Gerddorol

Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street

Yn dod cyn bo hir

Bydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ar werth yn fuan.

Gwybodaeth

SIOE GERDD GYFFROUS

Mynychwch chwedl Sweeney Todd Sondheim...

Ar ôl degawdau yn alltud, mae Sweeney Todd wedi dychwelyd i Lundain i geisio dial ar y barnwr llwgr a ddinistriodd ei deulu a’i fywyd. Mae’r llwybr at ddial yn ei arwain at Mrs Lovett, perchennog diobaith siop bastai sy’n mynd i’r wal. Cyn bo hir, mae’r ddau yn dyfeisio cynllun hunllefus i ddatrys eu problemau gyda chymorth un cynhwysyn cyfrinachol iawn. Gyda pheth o’r gerddoriaeth fwyaf blasus o iasol a ysgrifennwyd erioed ar gyfer y llwyfan, daw’r sioe gerdd ddoniol ac ysgytwol hon i’n byd modern o lygredd a chreulondeb mewn modd cyffrous.

Cerddoriaeth a geiriau gan Stephen Sondheim
Llyfr Hugh Wheeler
Cyfarwyddwr Josh Seymour
Cyfarwyddwr Cerdd David Laugharne
Coreograffydd Lucy Collingford

Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn trwy drefniant gyda Music Theatre International. Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd wedi’u cyflenwi gan MTI www.mtishows.co.uk

Digwyddiadau eraill cyn bo hir