Newyddion
Croeso i Gymru gan Pamela Howard yn dathlu’r gymuned gelfyddydol o fewnfudwyr Cymreig
Mae ‘Croeso i Gymru’ yn ailadrodd mewn modd unigryw deithiau teimladwy a’r croeso a roddodd y wlad i gymaint o artistiaid, perfformwyr a cherddorion, gan gynnwys cyndeidiau Pamela ei hun – mae wedi bod yn gweithio ar y stori hon gydol ei hoes.
Fel rhan o’r gosodiad, cynhelir perfformiadau bob bore a hwyr. Bydd y perfformwyr yn cynnwys Sian Phillips a Frank Barrie yn ogystal â myfyrwyr CBCDC ac aelodau o’r gymuned leol.
Bydd Pamela yn arwain cymuned o fyfyrwyr cynllunio, cyfansoddwyr a myfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau o’r Coleg a Tel Aviv i greu’r gosodiad hwn trwy gyfryngau cymysg celf weledol, ymchwil a fideo gyda chefnogaeth cerddoriaeth, actio, dawns a sain.
Elfen allweddol o’r prosiect yw’r rhyngweithio gyda’r gymuned leol – gan dargedu teuluoedd, pobl ifanc yn eu harddegau a phobl hŷn a gweithio gyda chymunedau amrywiol a rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – i gymryd rhan fel perfformwyr neu i greu ymateb i’r gwaith. Bydd staff a myfyrwyr CBCDC yn cael eu cefnogi i ddysgu mwy am y cymunedau hyn fel rhan o’r prosiect er mwyn helpu i danategu cenhadaeth y Coleg o fod yn Fan i Bawb.
‘Aros i’w straeon gael eu hadrodd’
‘Dyma brosiect fy mywyd: mae’r byd yn ehangach na dim ond y man rydych yn sefyll arno,’ meddai Pamela. ‘Mae ganddo bopeth i’w wneud â phob un ohonom. Gallwch wneud rhywbeth, ond mae angen i chi ddeall beth yw’r peth iawn i’w wneud. Trwy gydol hanes celf yw’r gwareiddiad mawr. Mae yna ddihareb Hebraeg, eich cyfrifoldeb chi yw adrodd yr un stori o genhedlaeth i genhedlaeth. Os na allwch roi’r stori iddyn nhw, yna sut allant wybod.
Cynlluniwyd y prosiect hwn i helpu eraill i adrodd eu straeon mewn ffordd mor gadarnhaol a chreadigol â phosibl. Dechreuais gydag adrodd fy stori i, ond fy nod yw gwneud y gosodiad hwn yn un cyffredinol, felly nid yw’n benodol i un grŵp - gellir rhannu’r straeon ymhlith unrhyw un sy’n dod i gymryd rhan ynddo.
Wrth i ni wylio’r newyddion bob dydd, rydym yn gweld sut mae pobl sydd wedi’u dadleoli o dan yr amgylchiadau anoddaf yn llwyddo i symud ymlaen o’r tywyllwch i’r goleuni. Dyma’r hyn a adlewyrchir yn y gosodiad hwn ar gyfer yr ymwelydd.’
Ysbrydoli Myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC
Mae Pamela wedi bod yn gweithio’n ddiwyd gyda’r Coleg dros y 17 mlynedd diwethaf, ac wedi bod yn Athro Cadair Rhyngwladol mewn Drama ers 2015.
‘Mae dull arloesol y Coleg ar gyfer cynllunio yn rhoi cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr sy’n ymuno â’r proffesiwn theatr, ac mae ei weledigaeth o addysg amlddisgyblaethol yn y Celfyddydau, heb gyfaddawdu o ran y pwnc, wedi ennill parch yn fyd-eang,’ meddai. ‘Rydw i wrth fy modd â’r ffaith bod y Coleg yn rhoi lle i mi fod mor rhydd ac arbrofol. Mae mor agored i amrywiaeth ac i bethau nad yw’n gwybod amdanynt eto.’
Mae Pamela wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr yn llwyddiant y Coleg yn y wobr cynllunio fawreddog a gynhelir bob dwy flynedd, Gwobr Linbury - mae bron i hanner y 60 sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Linbury dros y pum mlynedd diwethaf wedi astudio yn CBCDC.
Cynhaliwyd ‘The Art of Making Theatre’ ôl-syllol Pamela gan CBCDC yn 2022.
‘Mae llwyddiant ei hymgysylltiad â’n myfyrwyr wedi bod yn amlwg yn ein llwyddiant fel rhan o Wobr Linbury,’ meddai’r Cyfarwyddwr Drama, Sean Crowley. ‘O’r cyfarfod cyntaf â Pamela yng Ngwobr Linbury 1999, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i fyfyrwyr a staff. Mae’r gosodiad hwn yn gymaint o stori am genedlaethau a groesewir i Gymru a Chaerdydd ag ydyw o berthynas Pamela â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.’
‘Mae dull arloesol y Coleg ar gyfer cynllunio yn rhoi cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr sy’n ymuno â’r proffesiwn theatr, ac mae ei weledigaeth o addysg amlddisgyblaethol yn y Celfyddydau, heb gyfaddawdu o ran y pwnc, wedi ennill parch yn fyd-eang.
Rydw i wrth fy modd â’r ffaith bod y Coleg yn rhoi lle i mi fod mor rhydd ac arbrofol. Mae mor agored i amrywiaeth ac i bethau nad yw’n gwybod amdanynt eto.’Pamela Howard
‘The success of her engagement with our students has been tangible in our success as a part of The Linbury Prize,’ said Director of Drama, Sean Crowley.
‘From first meeting Pamela at the Linbury Prize in 1999, she has been a significant inspiration for students and staff. This installation is as much a story of generations welcomed to Wales and Cardiff as it is of Pamela’s relationship with the Royal Welsh College of Music & Drama. ‘
Cefnogir y prosiect hwn gan The Linbury Trust.
Nodiadau i Olygyddion
Fel rhan o’r prosiect cydweithredol hwn, mae’r Coleg yn gweithio gydag ystod o unigolion a sefydliadau yn Ne Cymru sy’n cefnogi Cymunedau Mwyafrif Byd-eang, Y Gymuned Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a Chymunedau Amrywiol Ethnig. Bydd Pamela a’r Cyfarwyddwr Cynllunio Sean Crowley yn arwain gweithgaredd sy’n targedu teuluoedd, pobl ifanc yn eu harddegau a phobl hŷn naill ai i fod yn rhan o’r prosiect hwn fel perfformwyr neu i gymryd rhan mewn gweithdai – i arddangos eu gwaith o bosibl fel ymateb yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae cyfleoedd perfformio ar gael i grwpiau cymunedol a allai gynnwys Cymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru, Race Council Cymru, Hynafiaid Windrush a chanolfan loches OASIS, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a The Choir with No Name yn ystod cyfnod yr arddangosfa. Gall y ffurfiau celfyddydol a archwilir gynnwys Cerddoriaeth, Y Ddraig Tsieineaidd a dawns draddodiadol.