Brendan Grant
Uwch Ddarlithwyr mewn Actio
Rôl y swydd: Tiwtor Corn Ffrengig
Adran: Pres
Anrhydeddau: BMus (Anrh), AGSM
Neil Shewan yw’r Prif/3ydd Chwaraewr Corn yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Astudiodd ar gyfer ei BMus yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, ac yn ystod ei flwyddyn olaf yno enillodd Gystadleuaeth Corn Paxman, y chwaraewr cyntaf o Brydain i wneud hynny.
Perfformiodd Neil gyda llawer o gerddorfeydd a grwpiau siambr gorau’r wlad. Mae’r rhain yn cynnwys yr LSO, Philharmonia, LPO, RPO, ENO, CBSO, Royal Opera House, Halle, Mahler Chamber Orchestra, ECO. Bu hefyd yn aelod o brif bumawd pres y Deyrnas Unedig, Fine Arts Brass Ensemble.
Mae Neil i’w glywed yn chwarae ar draciau sain llawer o ffilmiau a rhaglenni teledu, gan gynnwys Lord of the Rings Trilogy, The Hobbit, Harry Potter, Pirates of the Caribbean, Jason Bourne Trilogy, Dr Who, Blue Planet, Human Planet a llawer mwy.
Mae Neil yn diwtor Corn i’r National Children’s Orchestra of Great Britain ac yn chwaraewr-fentor i Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Yn 2018, cymhwysodd Neil yn arholwr i Goleg y Drindod Llundain, rôl sy’n golygu ei fod yn teithio ar hyd a lled y byd ac yn rhoi llwyfan iddo barhau i annog pobl i ddysgu eu dewis offerynnau.
Bu Neil yn athro gwadd i’r Coleg Cerdd Brenhinol, Birmingham Conservatoire ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall ac ym 1997 cyflwynwyd Medal Bulgin iddo gan y Worshipful Company of Musicians am ei wasanaethau i gerddoriaeth ieuenctid.