Maddie McCabe
Is-lywydd, Drama
Mae Neil Crossley yn offerynnwr sacsoffon, clarinét a ffliwt sy'n cyfuno perfformio, addysgu, cyfarwyddo ac ysgrifennu.
Ar ôl astudio'r clarinét i ddechrau, Neil oedd y sacsoffonydd prif astudiaeth cyntaf i raddio o Brifysgol Manceinion. Astudiodd wedyn yn y Royal Northern College of Music, gan ennill gwobrau gan Ymddiriedolaeth Gerdd Iarlles Munster, Sefydliad Hattori, Gwobr Proctor-Gregg, a Gwobr Trevor Wye am gerddoriaeth siambr, a chyrhaeddodd rownd gynderfynol cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC Radio 2.
Mae wedi perfformio gydag ensembles ledled y DU, gan gynnwys y BBC Concert Orchestra, Britten Sinfonia, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Northern Chamber Orchestra, Apollo Saxophone Orchestra, National Musicians' Symphony Orchestra, Manchester Concert Orchestra a Sax Assault.
Fel un sy’n chwarae nifer o chwythbrennau ac sydd â galw mawr amdano, mae Neil yn perfformio’n aml yn y West End yn Llundain ac mae wedi chwarae ar dros 40 o gynyrchiadau. Ymhlith ei sioeau fel deiliad y gadair mae Kinky Boots (Adelphi), Evita (Regent's Park), The Boy Friend (Menier), Billy Elliot (Victoria Palace) a Shrek (Drury Lane). Mae’r sioeau llawrydd yn cynnwys Frozen (Drury Lane), Moulin Rouge (Piccadilly), Book of Mormon (Prince of Wales), Aladdin (Prince Edward) a Gypsy (Savoy).
Mae Neil hefyd yn arbenigo mewn cerddoriaeth siambr ac mae wedi perfformio a recordio gyda grwpiau amrywiol mewn neuaddau cyngerdd a gwyliau ledled Ewrop.
Bu Neil yn gyfarwyddwr cwrs ar gyfer Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr ers 2015. Bu’n feirniad yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Genedlaethol Pro Corda a Gŵyl Abertawe i Gerddorion Ifanc, ac mae wedi ysgrifennu erthyglau i gylchgronau Music Teacher a CASS, ymhlith eraill.
Mae Neil yn angerddol am addysg gerddorol ar bob lefel. Mae wedi gweithio gyda phobl ifanc o lawer o sefydliadau gan gynnwys Trinity Laban Conservatoire of Music, Junior Guildhall, Chetham School of Music a Phrifysgol Manceinion.