Ingrid Surgenor
Hyfforddwr Ymweliadol
Rôl y swydd: Tiwtor Piano
Adran: Piano
Anrhydeddau: MMus, GRSM (Anrh), ARCO, ARCM
Mae Roger Owens wedi ei sefydlu ei hun yn un o'r pianyddion mwyaf amryddawn. Mae ei repertoire eang yn cwmpasu cerddoriaeth allweddellau cynnar hyd at gyfansoddiadau cyfoes, gan gynnwys perfformiadau cyntaf o weithiau gan Alun Hoddinott a Christian Jost. Mae ei yrfa wedi mynd ag ef i sawl rhan o’r byd, o Sir Benfro i Japan, ynghyd ag ymddangosiadau cyson ym mhrif ganolfannau cerddorol y Deyrnas Unedig lle mae ei chwarae wedi cael canmoliaeth am gyfuno techneg feistrolgar ddiymdrech, palet tonaidd cynnes a sensitifrwydd byw.
Astudiodd Roger yn breifat gyda Peter Gould ac wedyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda John Barstow MBE, lle cyflwynwyd iddo Fedalau Aur Chappell a Tagore.
Mae'n gyfathrebwr medrus ac mae ei bersonoliaeth ddeniadol yn golygu ei fod yn ymwelydd poblogaidd â chymdeithasau cerdd ledled Ynysoedd Prydain. Mae Roger wedi perfformio fel unawdydd a cherddor siambr ledled Ewrop ac wedi darlledu ar gyfer BBC Radio 3 a 4, Classic FM, a radio yn yr Almaen.
Mae uchafbwyntiau ei yrfa’n cynnwys perfformiadau o Goncerto Ymerawdwr Beethoven gyda’r Royal Philharmonic Orchestra yn y Barbican Centre yn Llundain, Ail Goncerto Piano Rachmaninov gyda Royal Scottish National Orchestra yn Usher Hall, Caeredin, a Ffantasi Gorawl Beethoven gyda’r Bach Choir a’r Philharmonia yn y Royal Festival Hall, Llundain. Derbyniodd ei recordiad o gerddoriaeth piano unawd gan Liszt, o'r enw Wandering Spirit, (ar gyfer Claudio Records) ganmoliaeth eang gan y beirniaid.
‘Roger Owens has a lovely sound, open and rounded, and shows excellent touch and control at the softest dynamics.’ (Tim Parry, International Record Review).