Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Juan Gonzalez

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr


Mae’r feiolinydd Feneswelaidd-Almaenaidd, Juan Gonzalez, yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Bu gynt yn Aelod o Gerddorfa Cyngerdd y BBC a chyn hynny yn Flaenwr yng Ngherddorfa Ffilharmonig Jalisco yn Guadalajara, Mecsico.

Dechreuodd Juan ei addysg gerddorol drwy raglen El Sistema y Gerddorfa Ieuenctid yn Feneswela ac roedd yn aelod o Gerddorfa Symffoni Feneswela.

Astudiodd yn y Conservatoire Simon Bolívar yn Caracas dan arweiniad yr Athro Raimondas Butvila.

Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd blaenllaw, megis Cerddorfa Ffilharmonig Berlin, Cerddorfa Symffoni Llundain, London Mozart Players, Britten Sinfonia, a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO). Bu’n gwasanaethu fel cyd-flaenwr gwadd y Britten Sinfonia, Blaenwr yng Ngherddorfa Chineke! yn Neuadd y Frenhines Elisabeth, yr Elbphilharmonie yn Hambwrg, ac ym Mhroms y BBC yn 2023. Mae hefyd wedi bod yn feiolinydd rhif 4 gwadd gyda'r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol (RPO) sawl gwaith, yn flaenwr gwadd yn y London Choral Sinfonia, ac yn flaenwr gwadd yng Ngherddorfa Gyfoes Llundain, gan gynnwys sesiynau Pop, Teledu a Ffilm yn Abbey Road ac yn Air Studios.

Expertise

Fel unawdydd a cherddor siambr, mae Juan wedi perfformio ar draws y DU, Ewrop a llawer o wledydd America Ladin.

Fel offerynnydd sesiynol, mae Juan wedi recordio nifer o sgorau Teledu a Ffilm yn Abbey Road ac yn Air Studios gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Gyfoes Llundain ac Isobel Griffiths Ltd.

Fel Athro a Mentor, mae Juan wedi rhoi Gwersi a Dosbarthiadau Meistr yn Llundain, Berlin, Feneswela, Mecsico, a Guatemala.

Mae Juan hefyd yn arweinydd dawnus sydd wedi arwain cyngherddau Gala gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol ‘Carlos Chavez’ ym Mecsico, Cerddorfa Ieuenctid Guadalajara, a cherddorfa Ffilharmonig Ontario yng Nghanada.

Proffiliau staff eraill