Neidio i’r prif gynnwys

Ian Evans

Rôl y swydd: Pennaeth Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: PGCEHE

Bywgraffiad Byr

Ian Evans yw’r Pennaeth Rheoli Llwyfan yn CBCDC ac mae’n Rheolwr Cynhyrchu Technegol (gydag angerdd am sain). Gyda bron i 40 mlynedd o brofiad, mae wedi gweithio gyda llawer o genres y diwydiant adloniant, gan gynnwys theatr, cyngherddau, digwyddiadau awyr agored, digwyddiadau corfforaethol ac arddangosfeydd. Mae’r wybodaeth hon wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ei addysgu a gwella ei sgiliau fel addysgwr yn fawr. Y mae hefyd yn arholwr allanol yn Birmingham City University, y DU, ar eu rhaglen Rheoli Llwyfan, a Rose Bruford College, y DU, ar eu rhaglen Cynhyrchu Clywedol.

Arbenigedd

Bu’n ymwneud â nifer o brosiectau addysgol ar gyfer OISTAT, gan gynnwys Cyd-gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Technegol WSD/Scenofest 2013 a Chyd-gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Technegol Scenofest 2007, Arweinydd Prosiect OISTAT Changing Perspectives yn y Prague Quadrennial (PQ) 2015; a chyd-drefnydd Biennale Rhyngwladol Beijing 2012/2016. Creodd Ian seinweddau ar gyfer gosodiad o No Man’s Land PQ15, ac Arddangosfa Brazil PQ19.

Treuliodd bedair blynedd yn gweithio fel athro gwadd gyda Phrifysgol Novi Sad, Serbia, (rhan o raglen TEMPUS yr Undeb Ewropeaidd), yn datblygu rhaglenni hyfforddi’r hyfforddwr er mwyn helpi i gefnogi diwydiant theatr genedlaethol.

Drwy gydol y pandemig, fel aelod o OISTAT Education, bu Ian yn cyd-arwain gweithdai rhyngwladol ar ymdrin â Covid a llesiant staff a myfyrwyr. Yn sgil y gwaith yma, ac wrth edrych ar anghenion ei fyfyrwyr ei hun, y mae bellach yn Hwylusydd Ymarfer Adferol.

Cyflawniadau Nodedig

Yn 2016, cynhyrchodd Ian osodiad sonig o’i gyfansoddiad ei hun o’r enw Whispers yn Desenhos de Cena #1 yn São Paulo, Brasil. Yn sgil ei ddefnydd arloesol o drawsddygiaduron ar gyfer y gosodiad hwn, wedi’i sbarduno gan ei arbrofion a ddangosodd sut i droi unrhyw ddeunydd cyseiniol yn uchelseinydd, gwnaeth ddatblygiadau pellach o ran sut i’w defnyddio. Mae hynny wedi caniatáu i gyfarwyddwyr, dylunwyr set, dylunwyr gwisgoedd ac eraill gyflwyno sain i’w gwaith. Gwahoddwyd Ian gan World Stage Design 2017 i ddatblygu’r syniadau a archwiliwyd gyntaf yn Whispers i greu tridiau o weithdy ar ddefnyddio trawsddygiaduron ym Mhrifysgol Genedlaethol y Celfyddydau, Taipei.

Ian oedd y Rheolwr Cynhyrchu Technegol a’r Cyd-ddylunydd Goleuo ar gyfer arddangosfa Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain, Staging Places, yn PQ - Prague Quadrennial 2019 a’r Victoria and Albert Museum yn Llundain. Ef hefyd oedd y dylunydd sain ar gyfer cyflwyniad Brasil yn y PQ.

Proffiliau staff eraill