Laura Martin
Darlithydd Celf Golygfeydd
Rôl y swydd: Tiwtor a Chyfeilydd Harpsicord, Fortepiano ac Organ
Adran: Piano
Mae Andrew Wilson-Dickson yn gyfansoddwr, pianydd ac arweinydd, yn ogystal ag awdur ac athro. Ym Mhrifysgol Caergrawnt astudiodd y piano gyda John Lill ac yna bu’n dal swydd ysgolhaig organ yn York Minster, gan adael Prifysgol Efrog gydag un o'r graddau doethuriaeth cyntaf mewn Cyfansoddi yn y wlad..
Pan symudodd i Gymru ym 1984 o Brifysgol Caerlŷr, enillodd Andrew 'Dlws y Cerddor' yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond cyn ac ers hynny mae ei gyfansoddiadau niferus wedi amrywio o'i oratorio dros heddwch ar raddfa fawr, 'Karuna', i gyfres o goncertos ar gyfer offerynnau'r cyfnod. Mae ei gerddoriaeth wedi’i chlywed yng Ngŵyl Bro Morgannwg a Gŵyl Machen Isaf ac wedi’i chwarae gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bu Andrew yn gweithio fel darlithydd a phennaeth cyrsiau gradd. Ond bu ei ddiddordeb mewn ymarfer perfformio hanesyddol yn datblygu ers blynyddoedd, yn enwedig trwy chwarae continuo, ac arweiniodd hynny at ei benodi’n Bennaeth Cerddoriaeth Gynnar. Ar y cyd â Lucy Robinson cyflwynodd ysgol haf faróc flynyddol trwy’r nawdegau yng Nghastell Sain Dunwyd ac mae’n parhau yn ne Ffrainc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr coleg astudio gyda chwaraewyr rhagorol. Sefydlodd Gerddorfa Faróc Cymru a chôr Camerata Cymru ac mae'n gyfarwyddwr y band offerynnau cyfnod 'Devon Baroque'. Yn CBCDC mae Andrew yn cyfeilio ac yn addysgu ar yr harpsicord.
Mae llyfr Andrew, 'The Story of Christian Music', wedi'i gyfieithu i fwy na dwsin o ieithoedd ar draws Ewrop a'r Dwyrain Pell.