Dominic Ingham
Tiwtor
Rôl y swydd: Cyd-destunau Galwedigaethol - Theatr Gerddorol
Adran: Piano
Astudiodd Connor Fogel y Piano yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac enillodd radd meistr mewn Cyfarwyddo Cerddorol o’r Mountview Academy of Theatre Arts. Ar hyn o bryd mae'n mwynhau gyrfa lwyddiannus ac amrywiol fel arweinydd/allweddellwr yn y theatr ac fel pianydd cyngerdd.
Mae ei waith theatrig yn cynnwys The Phantom Of The Opera (West End),
Julius Caesar (Taith y Royal Shakespeare Company yn y DU), Les Misérables (Taith y DU ac Iwerddon), Cinderella (Queen’s Theatre Barnstaple, Gatehouse Stafford), Topsie’s Crystal Balls (Taith y DU), The Soprano Behind the Screen (Taith y DU), Tymor 2019/20 y Royal Shakespeare Company: As You Like It, Taming of the Shrew, Measure for Measure (Barbican, Taith y DU, UDA ac Asia), Queen of the Mist (Charring Cross Theatre, Jack Studio Theatre), Sweet Charity (Nottingham Playhouse).
Mae Connor wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys yr 2il wobr yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Cymdeithas Liszt 2019 a Gwobr Cyfarwyddwr Cerdd 2016 gan The Worshipful Company of Musicians, y gwnaed Connor yn Rhyddfreiniwr ohono yn 2022. Mae Connor yn Gydymaith Anrhydeddus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chyn hynny ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Cyswllt Andrew Lloyd Webber yn y Royal Central School of Speech and Drama.
Mae Connor wedi recordio cerddoriaeth ar gyfer Naxos ar-lein, Prima Facie Records a Tŷ Cerdd. Mae wedi perfformio datganiadau mewn lleoliadau ledled y DU gan gynnwys Hampton Court Palace a St Lawrence Jewry, ac mae wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer Cymdeithas Liszt. Mae hefyd wedi gweithio ar y sgrin, ar ffilm a theledu, gan gynnwys drama ITV1, The Lost Honour Of Christopher Jeffries, a enillodd wobr BAFTA.