Jesse Musker
Undeb y Myfyrwyr Is-lywydd – Drama
Rôl y swydd: Tiwtor Picolo
Adran: Chwythbrennau
Ganed Lindsey Ellis yn Cumbria yn Lloegr a dechreuodd chwarae'r ffliwt yn saith oed. Dechreuodd ar ei hastudiaethau cerddorol yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama lle bu’n astudio gyda Richard Blake a Janet Richardson, ac enillodd Faglor mewn Cerddoriaeth gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Wedi hynny symudodd Lindsey i Bordeaux i gael gwersi gyda Samuel Coles cyn ennill Gradd Meistr yn y Conservatoire de Musique de Genève, lle bu'n astudio gyda Jacques Zoon a Jane Maillard, Prif Chwaraewr Picolo yr Orchester de la Suisse Romande.
Yn dilyn ei hastudiaethau, symudodd Lindsey i Lundain i ddod yn aelod o Southbank Sinfonia ac aeth yn ei blaen i weithio yno fel cerddor llawrydd. Ymddangosodd yn rheolaidd gyda llawer o brif gerddorfeydd y DU fel y Philharmonia, London Philharmonic Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, BBC Concert Orchestra a Britten Sinfonia. Bu Lindsey yn aelod o Gerddorfa Saito Kinen, gan berfformio’n flynyddol yng Ngŵyl Seiji Ozawa Matsumoto yn Japan.
Ar ôl bod ar brawf gyda cherddorfeydd amrywiol gan gynnwys City of Birmimgham Symphony Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra a BBC Scottish Symphony Orchestra, enillodd Lindsey ei lle fel Prif Chwaraewr Picolo yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Mae Lindsey hefyd yn gerddor siambr gweithgar iawn. Ar hyn o bryd mae’n aelod o Ensemble Perpetuo, grŵp arloesol sydd wedi’i leoli yn Llundain ac sy’n aml yn perfformio gydag arbenigwyr cerddoriaeth gyfoes, y Riot Ensemble, a’r enwog Berkeley Ensemble.