Sharon Richards
Hyfforddwr Llais, Tiwtor Dawn Gerddorol Allweddellau a Darllen wrth Weld
Rôl y swydd: Tiwtor Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Anrhydeddau: PhD mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham; MMus mewn Cyfansoddi yn CBCDC; BE (Anrh) mewn Peirianneg Gyfrifiadurol yn IAU (Tehran, Iran)
Mae Milad Mardakheh yn gyfansoddwr, artist sain, rhaglennydd ac ymchwilydd. Mae ei waith yn canolbwyntio ar arferion rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno gwyddoniaeth, technoleg a cherddoriaeth/celfyddyd sain. Yn deillio o hanes hir o eclectigiaeth mewn cerddoriaeth, mae ei allbwn presennol yn dod o dan gerddoriaeth electronig/electroacwstig, electroneg fyw a chelfyddyd sain, yn benodol cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth gyfrifiadurol/data, yn ogystal â chreu sain o ddata.
Fel artist ac ymchwilydd, mae meysydd diddordeb presennol Milad yn cynnwys seinweddau stocastig wedi'u syntheseiddio; celf-wyddoniaeth: creu sain o ddata a chroestoriad cerddoriaeth a gwyddoniaeth; deallusrwydd artiffisial a phrosesau sy'n cael eu gyrru gan ddata mewn gwaith byrfyfyr a pherfformio byw ym maes cerddoriaeth electronig/gyfrifiadurol ymdrochol am-lsianel; ac archwilio deialog gerddorol rhwng y perfformiwr a deallusrwydd artiffisial / data. Yn ogystal â chyfansoddi, mae'n dylunio rhyngwynebau rhyngweithiol ac yn perfformio darnau byrfyfyr byw mewn sefyllfaoedd stereo ac aml-sianel gan ddefnyddio amrywiaeth o offer fel Max/MSP a SuperCollider, gofodoli sain, rheolwyr MIDI a syntheseiswyr modiwlaidd.
Cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth electronig, electroacwstig a chyfrifiadurol; Celf-Wyddoniaeth a chreu sain o ddata; Max/MSP, SuperCollider; Codio byw; Gofodi/tryledu sain a sain aml-sianel; Cyfansoddi stocastig; Celfyddyd sain; Recordio maes; Synthesis modiwlaidd
Mae cyfansoddiadau a gwaith ysgrifenedig Milad wedi’u cynnwys a'u cyhoeddi mewn amryw wyliau cenedlaethol a rhyngwladol, cynadleddau, cyfnodolion dibynadwy, rhaglenni radio ac orielau, gan gynnwys Gŵyl flynyddol BEAST (y DU), Cynhadledd Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfrifiadurol (ICMC), Cynhadledd Ryngwladol ar Ryngwynebau Newydd ar gyfer Mynegiant Cerddorol (NIME), klingt gut! KLG (yr Almaen), Leonardo Journal, KMH - Coleg Cerdd Brenhinol (Sweden), Oriel Centrala (y DU) a Reform Radio.
Cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Birmingham (BEAST) dan oruchwyliaeth yr Athro Scott Wilson a Dr. Annie Mahtani (2021). Roedd ei draethawd ymchwil yn canolbwyntio ar ryngwynebau i greu sain o ddata ar gyfer cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth gyfrifiadurol, gan adlewyrchu canser fel clefyd o safbwynt biomoleciwlaidd.