Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Robert Turrell

Rôl y swydd: Tiwtor

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad byr

Cafodd Robert lwyddiant fel myfyriwr yn y 1970au, gan ennill pob un o’r gystadlaethau ar gyfer cerddoriaeth Linynnol a Siambr yn ei Goleg Cerdd.

Mae wedi gweithio gyda llawer o gerddorfeydd symffoni a siambr o Lundain, gan berfformio  ym mhob cwr o’r byd.

Bu Robert yn Gyfarwyddwr Artistig ‘Music in Tuscany’, y ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn cerddoriaeth Siambr yn yr Eidal rhwng 2005-2011, ac mae wedi arwain dosbarthiadau meistr ar hyd a lled Ewrop, UDA, Tsieina, Cyprus ac Awstralia.

Mae Robert wedi bod yn addysgu’n gyson mewn amryw o golegau cerdd yn Llundain ers 1981 gan orffen yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall ym mis Gorffennaf 2024. Mae bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda myfyrwyr yn fwy lleol.

Mae llawer o’i fyfyrwyr bellach yn gweithio gyda cherddorfeydd a cherddorion mwyaf blaenllaw’r byd.

Proffiliau staff eraill