Cory Band
Band Pres Preswyl
Rôl y swydd: Athro y Llais, Tiwtor Opera
Adran: Cyrsiau
Anrhydeddau: BA (Cantab), MA (Sussex)
Ganwyd Geoffrey yn Abercynon. Darllenodd Hanes yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, ac roedd yn ysgolor corawl. Addysgodd yn Charterhouse i gychwyn cyn astudio canu yn Guildhall.
Ymuno Geoffrey ag Opera Cenedlaethol Cymru, gan ymddangos am y tro cyntaf fel Don Basilio yn The Barber of Seville, cyn canu mwy na thri deg o rannau gyda’r cwmni hwnnw fel aelod o’r cwmni ac wedyn fel canwr gwadd. Roedd ei repertoire yn cwmpasu pob arddull o’r Baróc i’r Cyfoes ond yn benodol rhannau bas mwyaf ‘bel canto’. Yn cynnwys Giorgio yn I Puritani, Raimondo yn Lucia di Lammermoor, Rodolfo yn La Sonnambula a Guardiano yn La Forza del Destino. Mae hefyd wedi canu King Mark yn Tristan and Isolde, Fotis yn The Greek Passion, Seneca yn The Coronation of Poppea a Zachariah yn Nabucco ymysg eraill.
Ar ôl hynny, datblygodd ei yrfa lawrydd gan ymddangos am y tro cyntaf yn y Royal Opera, Glyndebourne a’r English National Opera, gan ddychwelyd yn rheolaidd yn ystod ei yrfa mewn repertoire amrywiol, gan gynnwys ei ymddangosiad gyda’r Royal Opera Hous fel Lindorf yn Tales of Hoffman, perfformiadau o Otello yn y Royal Opera House o dan Carlos Kleiber, ac Esclarmonde gan Massenet gyda Richard Bonynge.
Ymddangosodd yn rheolaidd yn Glyndebourne, yn yr Ŵyl ac ar daith gan gynnwys Fiesco yn Simon Boccanegra, Bartolo yn Figaro, Hobson yn Peter Grimes, a Snug yn A Midsummer Night’s Dream. Roedd y repertoire hefyd yn cynnwys Mephistopheles yn Faust ar gyfer yr English National Opera, a Ferrando yn Il Trovatore ar gyfer Scottish Opera. Creodd Geoffrey ran Peter yn The Last Supper gan Harrison Birtwistle yn Staatsoper Berlin o dan Daniel Barenboim. Ymddangosodd yn llawer o brif dai opera eraill Ewrop gan gynnwys Hamburg, Berlin, Brwsel, Amsterdam, Sevilla, Fenis a Paris mewn repertoire eang iawn.
Mae ei ymddangosiadau mewn cyngherddau yn cynnwys Requiem gan Verdi yn Philharmoniker Berlin, The Damnation of Faust gan Berlioz yn Alte Oper Frankfurt o dan Syr George Solti, Stabat Mater gan Rossini yn y Royal Festival Hall a Messiah gan Handel yn y Royal Albert Hall.
Mae Geoffrey yn addysgu gan ddilyn egwyddorion ’bel canto’, gan ganolbwyntio ar ddatblygu a defnyddio’r organ lleisiol cyfan er mwyn caniatáu ymateb rhydd ac emosiynol i berfformio.
Ymddangosodd Geoffrey yn The Marriage of Figaro a Falstaff ar y teledu i’r BBC ac mae’n ymddangos ar sawl recordiad Opera masnachol.