Emily White
Tiwtor Trombôn Tenor a Modgorn
Mae Brad Caleb Lee yn ddylunydd i’r theatr sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â chynhyrchydd, curadur, cyfarwyddwr, dylunydd gofodol, golygydd, ac athro sy’n hybu gwir gydweithio i greu profiadau cysylltiol i’r gynulleidfa. Gyda chefndir eang o farchnata i eiriolaeth, datblygu i reoli llwyfan, dylunio graffeg i gynhyrchu, mae Brad yn cynnig profiad eang yn ei waith. Fel rhan o’i bortffolio, fe welwch ddiddordeb mewn opera, syrcas, theatr glasurol, bwrlésg, gweithiau newydd, theatr i gynulleidfaoedd ifanc, technoleg mewn perfformiad, sioeau cerdd a storïau cwiar.
Ef oedd dylunydd preswyl y Chicago Fringe Opera am 5 mlynedd ac roedd yn cydweithio’n rheolaidd â Bros Do Prose a Summer Theatre of New Canaan. Ymhlith eraill, mae hefyd wedi cydweithio â The Richard Burton Theatre Company, Kings Head Theatre, St. George’s ym Mryste, Elan Frontoio, Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Sonic/Laura Drane Associates, Music Theatre Wales, Opera'r Ddraig, East Riding Theatre, Prague Shakespeare Company, Theatre Tuscaloosa, Hell in a Handbag, Filament Theatre, a The Monomoy Theatre.
Mae ganddo Radd Meistr mewn Dylunio Perfformio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2015) a dynodiad anrhydedd driphlyg ar gyfer Baglor y Celfyddydau mewn Theatr a Baglor y Gwyddorau Masnach mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Alabama (2011).
Yn CBCDC, mae Brad yn gweithio ar draws pob blwyddyn o fyfyrwyr wrth ddefnyddio sgiliau creu modelau a sgiliau digidol ar brosiectau cysyniadol a chynyrchiadau sy’n cael eu gwireddu. Ef yw cynhyrchydd arddangosfa flynyddol y graddedigion, BALANCE, gan arwain myfyrwyr drwy’r broses o gasglu eu deunyddiau catalog, arddangos a gwefannau er mwyn paratoi i gychwyn yn y diwydiannau creadigol.
Golygydd Sylfaenydd, ASCENDING (www.ascendingdesign.org)
Cylchgrawn digidol a phlatfform byd-eang sy’n canolbwyntio ar ddylunwyr, senograffwyr a dramodwyr gweledol sy’n dod i’r amlwg.
Dylunydd Guradur: Cymru, helo dieithryn / hello stranger
2023 National Design Exhibition
Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain / Canolfan Mileniwm Cymru
Curadur/Dylunydd Your Voice!
2021 Canolfan Mileniwm Cymru
Cynhyrchydd Curadurol
Prague Quadrennial of Performance Design & Space 2019
Golygydd Rhyngwladol (2017-19) / Cynllun (2014-15), The Blue Pages
Cylchgrawn chwarterol Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain
Cyd-ddylunydd, MAKE/BELIEVE
2015 UK National Design Exhibition
Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain, Victoria & Albert Museum
Fisa Talent Eithriadol Haen 1
Official Selection World Stage Design 2017, Taipei
Gwobr Arbennig y Rheithgor PQ 2015