Helena Gaunt
Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Rôl y swydd: Tiwtor Fiola
Adran: Llinynnau
Symudodd Rebecca i Gaerdydd i ymgymryd â swydd Prif Fiola Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar ôl gweithio’n llawrydd yn Llundain am flynyddoedd lawer.
Treuliwyd blynyddoedd cerddorol ffurfiannol Rebecca ym Manceinion yn Chetham’s School of Music a’r Royal Northern College of Music, ac yna astudiaethau ôl-raddedig gyda Thomas Riebl yn yr Universität Mozarteum yn Salzburg.
Roedd yn Brif Fiolydd Cynorthwyol y City of London Sinfonia ac mae'n parhau i fod yn brif fiolydd gwadd gyda llawer o gerddorfeydd yn y DU gan gynnwys London Symphony Orchestra a Scottish Chamber Orchestra, a chyda’r grŵp baróc Arcangelo perfformiodd 6ed Concerto Brandenburg yn Wigmore Hall. Mae'n gerddor sesiwn rheolaidd ac wedi teithio gydag Adele, Bjørk a'r Stereophonics. Mae Rebecca hefyd yn aelod ers amser hir o bedwarawd llinynnol Callino. Maent wedi chwarae yn Wigmore Hall, Llundain, wedi bod yn breswyl ddwywaith yn y Banff Centre for Arts and Creativity yng Nghanada lle gwnaethant gyfarfod a chydweithio ag Arcade Fire, a threulio wythnos yn Efrog Newydd gyda'r arbenigwyr cyfoes enwog, y Kronos Quartet, gan arwain at ddatganiad yn Carnegie Hall.