Jesse Musker
Undeb y Myfyrwyr Is-lywydd – Drama
Rôl y swydd: Tiwtor Soddgrwth
Adran: Llinynnau
Mae Alice yn mwynhau gyrfa berfformio amrywiol fel cerddor siambr a phrif chwaraewr soddgrwth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n gyfarwydd i wrandawyr BBC Radio 3, ac mae wedi perfformio mewn gwyliau mawr fel cyfres siambr BBC Proms, Malboro (UDA), Bath International, Santa Fe (UDA) a Lofoten. Chwaraeodd concertos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Scottish Chamber Orchestra, Ulster Orchestra, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Liverpool Philharmonic ac Israel Symphony. Mae ei chatalog recordiau’n cynnwys sonatas soddgrwth Mendelssohn a concertos gan Howells, Patterson a Tovey.
Roedd Alice yn aelod o’r Gould Piano Trio rhwng 2001 a 2018 – mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys holl driawdau piano Beethoven, Schubert a Dvorak yn Wigmore Hall, comisiynu gweithiau newydd gan Syr James MacMillan a Mark Simpson, teithiau rheolaidd a rhyddhau mwy na 25 o CDs.
Mae Alice yn cydweithio â’r pianyddion Viv McLean, Benjamin Frith, Robin Green a Daniel Tong ac ymddangosodd fel chwaraewr soddgrwth gwadd gyda’r Nash Ensemble, Ensemble 360 a phedwarawd Endellion. Mae ymweliadau rheolaidd â Seminar y Cerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove yn ysbrydoliaeth parhaus.
Bu Alice yn diwtor soddgrwth yn y Royal Northern College of Music a’r Coleg Cerdd Brenhinol ac mae bellach yn seiliedig yn ei dinas enedigol, Caerdydd, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle y dyfarnwyd Cymrodoriaeth iddi yn 2015. Gwnaeth hi a’i gŵr, David Adams, sefydlu Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth yn 2014. Mae Alice yn chwarae soddgrwth gan Alessandro Gagliano o 1710.
Astudiodd Alice gyda Ralph Kirshbaum yn y Royal Northern College of Music ac, fel ysgolor Fulbright, gyda Timothy Eddy yn Stonybrook, UDA. Fel enillydd Gwobr Pierre Fournier 1998, perfformiodd Alice am y tro cyntaf yn Wigmore Hall ym 1999.