Adrian Thompson
Athro y Llais, Tiwtor Opera
Rôl y swydd: Tiwtor Telyn
Adran: Y Delyn
Anrhydeddau: ACWCMD
Ers graddio o Brifysgol Birmingham a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Valerie wedi dal swydd y Prif Delynor gyda’r RTE Light Orchestra yn Nulyn, yr Orquesta Sinfonica de Las Palmas a Sadlers’ Wells Ballet Orchestra
Ers 2005, gwahoddwyd Valerie i fynd ar daith gyda’r World Orchestra for Peace, dan arweiniad Valery Gergiev. Mae’n brif delynores gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae wedi ymddangos droeon ar deledu a radio gyda’r gerddorfa ac fel unawdydd. Mae Valerie yn ymwneud yn fawr â gwaith allgymorth ac addysg Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gan gynnal dosbarthiadau meistr a gweithdai a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol amrywiol ledled Cymru.
Mae Valerie hefyd yn addysgu’r delyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, ac mae’n hyfforddi’n rheolaidd ar gyrsiau dydd y delyn a gynhelir yn CBCDC.