Ben Tarlton
Tiwtor Soddgwrth
Rôl y swydd: Arweinydd Preswyl, Arwain Cerddorfaol
Adran: Arwain
Anrhydeddau: BA
Ganwyd David Jones yn Iwerddon, ac astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, y Royal Northern College of Music (Cymrodoriaeth Iau mewn Arwain), a’r Tanglewood Music Center, UDA.
Perfformiodd David gyda llawer o brif gerddorfeydd y DU ac Iwerddon gan gynnwys BBC Scottish Symphony Orchestra, BBC Philharmonic Orchestra, Ulster Orchestra, National Symphony Orchestra of Ireland, RTÉ Concert Orchestra, Scottish Chamber Orchestra a’r Irish Chamber Orchestra. Mae David hefyd wedi gweithio gydag amryw gwmnïau opera ledled y DU ac Iwerddon, gan gynnwys Scottish Opera, Opera North, English National Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Wexford Festival Opera, Lyric Opera yn Nulyn a’r Irish National Opera. Ledled Ewrop a thu hwnt, mae David wedi perfformio gydag Opera Luzerne, Opera Zuid, Cerddorfa Symffoni Radio Hannover, Cerddorfa Symffoni Athens a Sinfonia Varsovia.
Mae David hefyd wedi perfformio yn llawer o’r prif wyliau gan gynnwys gwyliau Caeredin a Salzburg, lle y rhoddodd y perfformiadau cyflawn cyntaf o waith mawr Kurtag, Songs of Despair and Sorrow, op18.
Mae David yn ymgorffori’r holl brofiad hwn yn ei waith fel Arweinydd Preswyl yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle y mae’n ymroi’n helaeth i ddatblygu a mentora talent cerddorol, boed yn chwaraewyr cerddorfaol, yn gantorion opera, neu’n arweinwyr.