Juan Gonzalez
Tiwtor Feiolin
Cyn derbyn swydd Pennaeth Perfformio Chwythbrennau yn CBCDC ym mis Medi 2020, Robert Plane oedd prif glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, City of Birmingham Symphony Orchestra a’r Royal Northern Sinfonia. Yn ogystal â’r rôl newydd hon, mae ganddo yrfa ryngwladol nodedig fel unawdydd, chwaraewr siambr, artist recordio a chyfarwyddwr gŵyl. Mae Rob yn glarinetydd yn Ensemble 360.
Mae Rob wedi perfformio concertos mewn neuaddau cyngerdd blaenllaw ledled Ewrop, o’r Barbican yn Llundain ac ymddangosiad cyntaf yn y Proms yn y Royal Albert Hall, i Tonhalle Zurich, Auditorio Nacional de Música Madrid a Konzerthaus Dortmund. Gan archwilio repertoire pumawd clarinét gyda nifer o’r pedwarawdau llinynnol gorau, agorodd Brahms Experience, BBC Radio 3, gyda darllediad byw o St. George’s ym Mryste o Bumawd Brahms gyda’r Skampa Quartet ac mae’n perfformio’n rheolaidd yn Wigmore Hall gyda’r Elias Quartet. Roedd BBC Music Magazine o’r farn mai ei recordiad o Quartet for the End of Time gan Messiaen gyda’r Gould Piano Trio oedd y recordiad modern gorau o’r campwaith epig hwn.
Mae Rob yn gweithio’n ddiflino dros ei angerdd at gerddoriaeth clarinét o Brydain mewn cyngherddau ac ar ddisgiau. Enillodd Wobr Gramaphone am ei ddehongliad o Concerto gan Finzi ac roedd ar restr fer Gwobr Gramaphone am Bax Sonatas; dau yn unig o blith casgliad mawr o recordiadau o waith gan gyfansoddwyr mawr y Mudiad Rhamantaidd yn Lloegr. Yn ei albwm diweddaraf ar label Champs Hill Records, Reawakened, rhoddir bywyd newydd i goncertos clarinét gan Iain Hamilton, Ruth Gipps a Richard Walthew gyda’r BBC Scottish Symphony Orchestra a Martyn Brabbins.
Rob oedd yr unawdydd clarinét ar gyfer ffilm Disney, Maleficent, ar gais personol cyfansoddwr y sgôr, James Newton Howard.
Mae Rob wedi recordio mwy na 30 o recordiadau CD fel unawdydd, yn amrywio o glasuron y repertoire (Pumawdau Clarinet Weber, Triawdau Brahms a Beethoven) i ddarnau prin y repertoire Prydeinig, gan adfywio gweithiau gan Robin Milford, Joseph Holbrooke a Pamela Harrison. Comisiynodd concertos gan Diana Burrell, Piers Hellawell a Mark David Boden, a recordiodd y rhain gyda’r BBC Philharmonic, ac yn ddiweddar rhoddodd y perfformiodd cyntaf erioed o concerto clarinét Judith Bingham gyda’r London Mozart Players. Ochr yn ochr â’r Gould Piano Trio, bu Rob yn Gyfarwyddwr Artistig i Ŵyl Cerddoriaeth Siambr Corbridge ers 1999. Fel prif glarinetydd gwadd, perfformiodd Rob gyda’r Chamber Orchestra of Europe, Concertgebouw Orchestra a phob un o gerddorfeydd symffoni Llundain.