Michael McCartney
Tiwtor mewn Cyfansoddi gyda Sgiliau Cerddoriaeth wedi’i Nodiannu
Rôl y swydd: Tiwtor Piano
Adran: Piano
Ganwyd Graham Caskie yn Darlington ym 1967. Astudiodd yn y Birmingham Conservatoire a’r Academi Gerdd Frenhinol o dan Frank Wibaut, Hamish Milne ac Alexander Kelly. Yn flaenorol, bu Graham Caskie yn addysgu yn Yehudi Menuhin School a Chetham’s School of Music ac yn bresennol mae’n addysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Graham Caskie yn bianydd sydd wedi derbyn clod yn rhyngwladol ac mae’n adnabyddus am ei ddehongliadau o gerddoriaeth piano a siambr Brahms a Debussy. Mae hefyd yn frwdfrydig iawn ynghylch cerddoriaeth gyfoes, jazz, ragtime a byrfyfyrio, ac yntau wedi comisiynu sawl darn gan gyfansoddwyr blaenllaw fel Stephen Goss (Preludes ac Interludes) Matthew King, John Cooney a Marcel Baudet. Roedd ei recordiad proffesiynol cyntaf, ar label Metier, yn cynnwys gweithiau gan Michael Tippett, John McCabe, Paul Patterson a Nigel Clarke, gan weithio’n agos gyda’r cyfansoddwyr hyn cyn recordio.
Mae ei bartneriaethau presennol ar gerddoriaeth siambr yn cynnwys deuawd gyda’r soddgrythor Thomas Carroll, gan gyflwyno gweithiau newydd i’w rhaglenni wedi’u cyfansoddi’n arbennig ar eu cyfer, gan gynnwys dau ddarn gan Stephen Goss, Caught Between a Concerto for Five, a’r ail o’r rhain yn goncerto i’r piano, fiolín, soddgrwth, sacsoffon a dwbl bas. Mae Graham Caskie a Thomas Carroll hefyd wedi recordio sonata Chopin i’r soddgrwth a’r piano, ar gyfer Cadenza Records.
Arresting, thoughtful and energetic…’ (THE SUNDAY TIMES)
‘Caskie is a model of poetic subtlety and discretion...’ (GRAMOPHONE)
‘Stunning playing, both technically and interpretively... providing a masterclass in pedaling...’ (INTERNATIONAL PIANO)
‘In Ligeti’s The Devil’s Staircase his precision and power were truly frightening; he moved over the keyboard like a cyclone...’ (MINNEAPOLIS STAR TRIBUNE)
‘Sensitive and evocative’ (THE INDEPENDENT)