Yvette Vaughan-Jones
Arweinydd Modiwl Rheolaeth yn y Celfyddydau
Rôl y swydd: Tiwtor Telyn
Adran: Y Delyn
Anrhydeddau: MA (Jazz), BMus (Anrh), LRSM
Dechreuodd Amanda ar y delyn glasurol yn chwech oed, ac yn un ar bymtheg dyfarnwyd ysgoloriaeth arbenigol iddi i fynychu Wells Cathedral School. Enillodd radd BMus gyda Caryl Thomas ym Mhrifysgol Caerdydd, a gradd Meistr mewn jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny, bu’n gweithio fel telynor llawrydd ledled y byd; o ddatganiadau yn y Southbank yn Llundain i wyliau jazz yn Hamburg, Johannesburg, Gwlad Belg a llawer mwy.
Fel athrawes, Amanda yw’r arbenigydd ar delyn jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Royal Birmingham Conservatoire ac yn 2020, dyfarnwyd ei stiwdio ei hun iddi ar yr Harp Column Academy, yn addysgu jazz ledled y byd.
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth telyn jazz, mae ei anrhydeddau’n cynnwys maes llafur telyn Trinity (2020-2023) sy’n cynnwys 22 o’i chyfansoddiadau.
Cafodd Amanda gytundeb gan Jazzman Records yn 2020 fel artist jazz, gan ryddhau dau albwm ym mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021.