Dudley Phillips
Tiwtor Bas Trydan / Dwbl Bas
‘A light touch and an engaging tone’ oedd disgrifiad cylchgrawn The Strad o Robin Green, ac mae’n mwynhau gyrfa brysur fel unawdydd, cerddor siambr ac arweinydd.
CD Robin, Dialog mit Mozart, a ryddhawyd ar label Gramola, oedd Dewis y Golygydd yng nghylchgrawn The Strad. Cafodd ei recordiadau o Games Chorales a Fantasie a ryddhawyd ar label Claves eu hadolygu gan Gramophone: ‘Green…an intelligent and sensitive musician with a genuine flair for imaginative programming.’
Mae Robin yn perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Festspiele Mecklenburg-Vorpommern, Gŵyl Interlaken Classics, Artistiaid Ifanc Gŵyl Davos, Gŵyl ‘Open Chamber’ yr International Musicians Seminar yn Prussia Cove, Pharos Trust, Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth a Festival de Radio France et Montpellier.
Mae cerddoriaeth siambr yn rhan ganolog o fywyd Robin fel cerddor. Ac yntau’n flaenorol wedi derbyn cymrodoriaeth Cerddoriaeth Siambr Leverhulme yn y Coleg Cerdd Brenhinol, enillodd Robin y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth cerddoriaeth siambr y Royal Overseas League a’r Concours Nicati yn y Swistir a daeth yn ail orau yng nghystadleuaeth ddeuawd ryngwladol Schubert. Mae Robin yn aelod o’r Odysseus Piano Trio. Cydweithiodd â Gordan Nikolitch, Valeryi Sokolov, Bogdan Bozovic, Christoph Richter, Christian Elliott, Catherine Manson ac Alice Neary, ymhlith eraill.