Andrea Brown
Pennaeth Arwain Corawl
Rôl y swydd: Tiwtor Cornet
Adran: Pres
Anrhydeddau: DipTCL
Enillodd Christopher Turner ei Ddiploma o’r Trinity College of Music and Drama a'i Ddiploma Ôl-raddedig o’r Guildhall School of Music and Drama. Wedi hynny dechreuodd ar yrfa lawrydd lwyddiannus yn gweithio gyda’r Halle Orchestra, BBC Concert Orchestra, BBC Philharmonia a’r Auckland Philharmonic. Yn ogystal â'i waith llawrydd, dechreuodd ei yrfa addysgu fel Cyfarwyddwr gyda’r Besson School of Excellence yn Seland Newydd.
Bu'n gweithio fel athro pres peripatetig yn Swydd Efrog ac fel Cydlynydd Band Pres Gwasanaeth Cerddoriaeth Rhondda Cynon Taf, ac mae'n Diwtor gyda Gwasanaeth Cynnal Cerdd Gwent. Yn ogystal â'i yrfa lawrydd ac fel addysgwr, cafodd Chris lwyddiant yn gweithio gyda’r Brighouse & Rastrick Band fel Cornetwr Soprano a Phrif Gornetydd Cynorthwyol gyda'r Black Dyke, Cory Band a’r Grimethorpe Band gan ennill llawer o’r prif gystadlaethau. Mae Chris yn arwain Band Llwydcoed ac yn cynnal stiwdio addysgu pres ar-lein.