Rorie Brophy
Darlithydd Cynhyrchu a Dylunio (Y Celfyddydau Technegol)
Mae John Hardy yn gyfansoddwr a chydweithiwr rhyngwladol, ac mae bob amser yn gweithio i greu celf, gan gynnwys i fyd ffilm, opera a theatr, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Caiff ei waith ei nodweddu gan gyfathrebu uniongyrchol, ffocws ar y profiad cyfan, a’r arfer o werthfawrogi a meithrin creadigrwydd eraill. ‘Utterly engrossing’ (The Guardian); ‘hauntingly atmospheric’ (The Observer); ‘energetic, instinctive’ (The Times); ‘unique’ (The Guardian); ‘witty’ (The Independent); ‘gripping and intensely theatrical’ (Opera Now).
Yn fachgen, roedd John yn brif gorydd yn Eglwys Gadeiriol Exeter. Tra’r oedd ym Mhrifysgol Rhydychen ac Ysgol Guildhall, roedd yn gyfarwyddwr Gŵyl Edington am bedair blynedd. Dull John o weithredu mewn gwaith addysg yw annog y myfyrwyr i ddatblygu eu creadigrwydd mewn ffordd sydd ag ystyr iddyn nhw. Drwy ei werthfawrogiad o’r creadigrwydd hwn ymhlith eraill, y mae wedi cydweithio a gweithio’n broffesiynol gyda’i fyfyrwyr a’i raddedigion.
Am ddegawdau, roedd John yn gyfansoddwr a chydweithiwr llawrydd mewn llawer o ffurfiau celfyddydol ac ar draws y diwydiannau creadigol, gan deithio llawer a bod i ffwrdd am gyfnodau hir, ond roedd yn seiliedig yng Nghymru yn bennaf.
Bu John yn cydweithio’n agos â graddedigion CBCDC, Benjie Talbott, Tic Ashfield, Sam Barnes a chyn-fyfyrwyr eraill ar nifer o ddigwyddiadau theatrig byw, teledu, ffilm a dawns. Er enghraifft, The Gathering ar gyfer National Theatre Wales, a oedd yn golygu cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer perfformiad theatr safle-benodol yn seiliedig ar yr amgylchedd, gan gynnwys recordiadau sain wedi’u gosod yn y dirwedd ar draws ochr ddeheuol yr Wyddfa, a phresenoldeb rhyfeddol Band Pres Deiniolen ar y mynydd.
Mae cyweithiau arloesol eraill yn cynnwys The Hunchback in the Park ar gyfer Aardman Animation a BBC Online, wedi’i sgorio ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; On Bear Ridge, The Persians, Coriolan/us, ac Iliad ar gyfer National Theatre Wales; Steel Country, ffilm ddrama gyfoes yn seiliedig yn UDA a saethwyd yn Atlanta, Georgia, gyda’r Gwyddel o actor, Andrew Scott, yn serennu; a sawl tymor i ddramâu teledu, A Mind To Kill / Heliwr, Hidden / Craith, The Light In The Hall / Y Golau, a Bregus.
Mae comisiynau John yn cynnwys gweithiau sylweddol i Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Music Theatre Wales, BBC Concert Orchestra, Test Dept, Only Men Aloud, Abaty San Steffan, BBC Singers a London Brass. Mae’r perfformiadau’n cynnwys cyweithiau gydag ICA London, DV8/National Theatre, Royal Court Theatre, National Theatre Wales, Brith Gof, Gŵyl Gerdd Edington, Gwyliau Oslo, Madrid, Copenhagen, Dulyn, Machynlleth a Polverigi, LIFT, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Ffrinj Caeredin, Mayfest, Project Voice, a llawer o diwtora.
Mae John a’r cyfansoddwyr yn John Hardy Music wedi ennill chwe gwobr BAFTA Cymru, ynghyd â phum enwebiad arall, am eu sgoriau ffilm a theledu. Mae gan John ddiddordeb mewn archwilio ffyrdd i artistiaid iau ymbaratoi at oes o greadigrwydd a chydweithio boddhaus a chynaliadwy.
Cafodd ei wahodd i arwain adolygiad o’r cyrsiau cyfansoddi yn y National Film and TV School (NFTS) yn Beaconsfield yn 2019 ac mae wedi arholi gwaith doethurol ar ran Prifysgol Royal Holloway, Llundain, 2018-2019.
Mae gwaith ymchwil John yn cynnwys diddordeb yn y prosesau sy’n ysgogi gwaith tîm. Ar gyfer y gyfres deledu Hinterland / Y Gwyll, roedd ei waith yn dangos dulliau arloesol lle roedd byrfyfyrio ar y pryd, ac annog pob aelod o dîm y cywaith i gyfrannu at bob rhan o’r broses, yn sefydlu proses drylwyr a oedd yn arwain at artistwaith grymusol, ynghyd â gallu i weithio’n gyflym iawn, ac yn unol â’r gyllideb. Roedd hyn yn eu galluogi i gyfansoddi a chynhyrchu swm enfawr o gerddoriaeth ymatebol a chynnil drwy gydol cynhyrchiad o 13 pennod lawn.