Cory Band
Band Pres Preswyl
Mae Anna Menzies yn perfformio ledled y DU ac Ewrop fel unawdydd, datgeiniad a cherddor siambr. Mae'n aelod o’r Gildas Quartet, ac mae'n ymddangos yn rheolaidd mewn gwyliau rhyngwladol, ar Radio'r BBC ac mewn lleoliadau gan gynnwys y Purcell Room, Bridgewater Hall a Wigmore Hall. Mae ei diddordebau'n ymestyn o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes ac mae'n mwynhau cydweithio â chyfansoddwyr yn rheolaidd, gan weithio'n fwyaf diweddar gyda Colin Matthews, Syr Harrison Birtwistle, Cheryl Frances-Hoad a Philip Cashian.
Mae gan Anna dros ddegawd o brofiad yn gweithio gyda soddgrythorion ifanc dawnus a bu’n dysgu yn yr Yehudi Menuhin School a Chetham's School of Music am flynyddoedd cyn ymuno â staff Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2017.