David Baxter
Arweinydd modiwl Rheolaeth yn y Celfyddydau
Rôl y swydd: Pennaeth Perfformio Pres
Adran: Pres
Anrhydeddau: PPRNCM
Yn enedigol o Gastell-nedd, astudiodd Roger Argente yn y Royal Northern College of Music, lle’r oedd yn gyd-enillydd y Wobr Concerto.
Ymunodd â’r Bournemouth Symphony Orchestra ym 1986 cyn symud i’r Royal Philharmonic Orchestra ym 1992, gan adael yn 2018 ar ôl 27 o flynyddoedd godidog, i ymgymryd â’i swydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Fel cerddor sesiwn, mae Roger wedi recordio sgoriau ffilm i John Williams, James Horner, Hans Zimmer, Danny Elfman a Michael Giacchino ar gyfer rhai o glasuron y sgrin fawr fel Gladiator, Harry Potter, Lord of the Rings, Inception, Batman, ffilmiau 007, a Captain Underpants hyd yn oed.
Yn 2001, dechreuodd brosiect addysg yn seiliedig ar y trombôn o’r enw BONELAB am fod nifer y plant ysgol sy’n dysgu chwarae’r offeryn yn dirywio. Yn ei flynyddoedd cynnar, roedd BONELAB yn cydweithio ag amryw wyliau, neuaddau cyngerdd, conservatoires, asiantaethau addysg a cherddorfeydd blaenllaw.
Yn 2005, gwnaeth Roger ddechrau Superbrass. Cafwyd adolygiadau clodfawr i’w CD cyntaf, Under the Spell of Spain – ‘enigmatic pulse-pumping musical essences that will make you want to jump for joy, weep your heart out or dance until dawn’ – ac yn 2008, cawsant eu henwebu am Wobr Addysg y Royal Philharmonic Society am eu gwaith yn Niwrnod Pres BBC Proms 2007. Mae’r ensemble wedi perfformio yn yr Eidal, Dubai a’r Swistir.
Prosiect a ddeilliodd o Superbrass yw Superbrass Music, ac mae’n arbenigo ar gyhoeddi cerddoriaeth i offerynnau pres. Roger Argente yw unig berchennog a golygydd Superbrass Music. Mae Roger hefyd yn Llysgennad i Youth Music ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Trombôn Prydain, ac yn 2014 derbyniodd Wobr Llywydd y Gymdeithas Trombôn Ryngwladol.