Llŷr Williams
Artist mewn Cymdeithas
Rôl y swydd: Tiwtor Bas Dwbl
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: ARCM, RCMDip(Perf)
Astudiodd Mary Condliffe y dwbl bas yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda’r Athro Michael Brittain. Bu’n gweithio wedyn fel cerddor llawrydd yn Llundain. Ers 1984, bu Mary yn cyflawni swydd amser llawn gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru gan deithio i lawer o wledydd gan gynnwys UDA, Hong Kong, Japan, Dubai, yr Almaen, yr Eidal a Ffrainc. Mae’r gerddorfa wedi recordio llawer o operâu ac yn perfformio’n rheolaidd ar deledu a radio.
Mae gan Mary bron i 40 mlynedd o brofiad fel tiwtor bas dwbl. Mae’n addysgu rhai o bob oed, o ddechreuwyr i chwaraewyr proffesiynol. Mae llawer o’i myfyrwyr wedi ennill gwobrau ac ysgoloriaethau yn y prif conservatoires ac aeth sawl un ymlaen i swyddi mewn cerddorfeydd proffesiynol.
Mae Mary hefyd yn rhan o Gymdeithas Athrawon Llinynnau Ewrop ac ysgrifennodd erthyglau i gylchgrawn Double Bassist.