Lucy Gould
Tiwtor Feiolin
Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: ARCM, Chevalier de l’ordre des Arts et Lettres
Bu Elenid Owen, am 24 mlynedd, yn aelod o'r Quatuor Ludwig gan roi dros 1500 o gyngherddau a dosbarthiadau meistr ledled y byd a recordio 20 CD ar gyfer labeli "Naxos", "Naïve" ac "Universal". Fe’i gwnaed yn "Chevalier de l'Ordre des Arts et Lettres" gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.
Dychwelodd Elenid i Gymru i ymgartrefu gyda'i theulu. Mae bellach yn addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn perfformio'n rheolaidd gydag Ensemble Cymru.
Yn blentyn, enillodd Elenid lawer o gystadlaethau ieuenctid. Perfformiodd fel unawdydd gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra ac enillodd Wobr Goffa Grace Williams.
Sylwodd Igor Ozim arni yn ystod dosbarthiadau meistr cyn ei gwahodd i astudio yng Nghwlen lle enillodd wobr 1af gyda rhagoriaeth. Penderfynodd fwrw ymlaen â’i hastudiaethau yn y Banff Centre for the Arts, lle perfformiodd fel unawdydd gyda’r Calgary Philharmonic Orchestra a chwarae gyda Frans Helmerson, Thomas Brandis, Gyorgy Sebok a Rivka Golani.
Yn fuan ar ôl iddi ymuno â Phedwarawd Ludwig ym Mharis, fe'i henwebwyd i fod yn "Bedwarawd Preswyl" yn y Paris Conservatoire. Yno, bu Elenid a'i chydweithwyr yn addysgu a hyfforddi cerddoriaeth siambr, gan rannu cyfoeth o wybodaeth a gasglwyd o bedwarawdau Amadeus, Tokyo, Berg, Kolish a LaSalle ynghyd â Sergiu Celibidache.
Gwnaeth sawl cyfansoddwr cyfoes gyflwyno gweithiau i'r Ludwig, yn cynnwys Thierry Escaich, Michaël Levinas, Philippe Hersant ac Alain Louvier. Derbyniodd y Pedwarawd sawl "Grand Prix du Disque" a gwobr fawreddog MIDEM Cannes am ei recordiadau.
Yn ystod ei chyfnod yn Ffrainc, bu Elenid yn addysgu perfformiad fiolín a cherddoriaeth siambr yng Nghonservatoires Paris, Reims, Strasbourg a Lille.