Stephen Marsden
Tiwtor Basŵn
Rôl y swydd: Tiwtor Tympani
Adran: Offerynnau taro
Anrhydeddau: ARAM
Ganwyd Steven Barnard yn Nottingham a dechreuodd chwarae'r drymiau yn bedair oed. Yn 17 oed, dyfarnwyd lle iddo yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle bu'n astudio gyda'r adnabyddus James Blades a Nicholas Cole.
Yn 1979, yn 21 oed, penodwyd Steven yn Brif Dympanydd gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC bellach) ac mae'n un o'r tympanyddion sydd wedi gwasanaethu hwyaf a’r mwyaf profiadol yn y DU. Yn ogystal â chwarae yn nifer o brif neuaddau cyngerdd y byd, bu'n ymwneud â gweithgareddau allgymorth y gerddorfa a dyfarnwyd Diploma Proffesiynol iddo i gydnabod y gwaith hwn.
Penodwyd Steven yn Gydlynydd Taro yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2005, gan reoli adran offerynnau taro dalentog a brwdfrydig iawn. Mae'n cynnal dosbarthiadau meistr yn rheolaidd, ac yn 2008 fe'i gwahoddwyd i fod yn siaradwr gwadd yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Genedlaethol Athrawon Offerynnau Taro.
Mae Steven hefyd yn un o sylfaenwyr y pumawd jazz NOT NOW lle mae'n chwarae drymiau ochr yn ochr ag aelodau eraill Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.