James Lea
Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth; Uwch Ddarlithydd mewn Ymchwil ac Arloesi
Rôl y swydd: Tiwtor Gitâr Gwadd
Adran: Gitâr
Anrhydeddau: ARCM, FCLCM (Anrh), ARAM
Bu John Mills yn ymwneud â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers amser hir, ac yntau’n gyn bennaeth yr Adran Gitâr. Gan berfformio’n rhyngwladol ers dros hanner can mlynedd, mae’n croesawu’r cyfle i barhau i addysgu yn yr adran ac yn mwynhau gweithio gyda cherddorion ifanc a thalentog.
Ac yntau wedi astudio gyda John Williams, Julian Bream a’r enwog Andres Segovia ymhlith eraill, mae ganddo wybodaeth fanwl o repertoire y 19eg ganrif hyd at ganol yr 20fed ganrif yn benodol. Mae’n frwdfrydig am annog myfyrwyr i fynd ati i ddysgu repertoire drwy safbwynt hynod ddadansoddol a hanesyddol, gan roi sylw i ddethol repertoire a rhaglennu cyngherddau.
Mae gweithgareddau eraill John ym maes y gitâr yn cynnwys darlledu, recordio, ac archwilio saernïaeth a hanes yr offeryn. Mae hefyd wedi gweithio gyda chyfansoddwyr mewn llawer o wledydd ar ychwanegiadau newydd i’r repertoire, ar ffurf unawdau a cherddoriaeth siambr. Gyda’i brofiad eang yn y proffesiwn cerddoriaeth, mae hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr mewn perthynas â nodau a chynllunio gyrfa.