Martin France
Tiwtor Drymiau
Rôl y swydd: Uwch Ddarlithydd Rheoli Llwyfan a Chynhyrchu
Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol
Anrhydeddau: BA (Anrh), PGCert, FHEA
Ymunodd Emma Hele â CBCDC gan ddod â bron i 20 mlynedd o brofiad fel Rheolwr Llwyfan. Hyfforddodd yn Rose Bruford Drama School, gan raddio â BA (Anrh) mewn Rheoli Llwyfan.
Dringodd o fod yn Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol i fod yn Ddirprwy ac wedyn yn Bennaeth Adran / Rheolwr Llwyfan Cyffredinol. Mae wedi gweithio ar amrywiaeth o sioeau gan gynnwys Opera, Sioeau Cerdd, Dramâu, Sioeau Plant, Dawns, Bale a Syrcas gydag artistiaid a thechnegwyr o bob rhan o’r byd, gan weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn Rhyngwladol.
Mae Emma yn Arholwr Allanol i’r Sharjah Academy of Performing Arts yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig.
Mae hefyd wedi cymhwyso ar gyfer ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygu Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg Uwch a daeth yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Ar ôl graddio o’r Ysgol Ddrama, ymunodd Emma â Glyndebourne Opera fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol cyn symud ymlaen i fod yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan.
Bu’n gweithio yn Glyndebourne am dros ddegawd yn y Gwyliau a’r Teithiau gan fynd ag opera hefyd i Baris, Efrog Newydd a’r Royal Albert Hall Proms. Teithiodd yn helaeth yn y Deyrnas Unedig gyda Glyndebourne a chwmnïau eraill gan gynnwys Opera North, a chyda phrosiectau Pimlico Opera bu’n gweithio gyda throseddwyr mewn carchardai ar gynyrchiadau gan gynnwys West Side Story, Les Misérables a Sweeney Todd.
Aeth Emma ymlaen wedyn i weithio i Cirque du Soleil, gan deithio’n rhyngwladol yn Canada ac UDA, a chydweithio â thechnegwyr ac artistiaid o fwy na 24 o wledydd.
Cafodd ei phenodi wedyn yn Bennaeth Rheoli Llwyfan yn Nhŷ Opera Brenhinol Muscat yn Oman.
Yn fwyaf diweddar, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Sioe ar ddwy o sioeau Cirque du Soleil ar draws ardal Môr y Canoldir.
Pan oedd yn Glyndebourne, gweithiodd Emma gyda thimau creadigol gan gynnwys Syr Peter Hall, John Gunter, Jonathan Kent, Paul Brown, David McVicar, Paule Constable, Mark Henderson, Nick Hytner a Deborah Warner ar gynyrchiadau newydd a rhai wedi’u hadfywio gan gynnwys Albert Herring, Carmen, Don Giovanni, a Fairy Queen.
Pan oedd yn Oman roedd modd iddi weithio ar amrywiaeth eang o gynyrchiadau gan ganiatáu iddi brofi sbectrwm eang o arddulliau rheoli llwyfan o bob rhan o’r byd. Roedd yn gweithio gyda chwmnïau ac artistiaid gan gynnwys Diana Krall, Youssou N’Dour, The Silk Road Ensemble gyda Yo-Yo Ma, Mariinsky Ballet, Arena di Verona Opera a Teatro San Carlo yn Napoli.
Pan oedd gyda Cirque du Soleil, bu Emma yn gweithio ar y sioe Quidam: