Angus West
Tiwtor Corn Ffrengig
Gitarydd o Brydain yw Ant sy’n byw yn Llundain ac “ar flaen y gad” ac yn “arloeswr” yn ôl The Guardian. Mae ei chweched albwm ‘Ensconced’ yn gydweithrediad â’r gantores Dwrcaidd a anwyd ym Milan, Brigitte Beraha, a bydd yn cael ei ryddhau (ar Ubuntu Music) ar 16 Awst 2024. Rhyddhawyd ei albwm blaenorol ‘Same Moon in the Same World’ (Outside in Music) ar 4 Tachwedd 2022.
Yn 2013 rhyddhawyd ei waith cyntaf ‘Entanglement’ (33Jazz), wedyn ‘Zero Sum World’ (Whirlwind Recordings) yn 2015 ac yna ‘Life I Know’ (Edition Records) yn 2018. Disgrifiwyd y gwaith hwn fel un a fyddai’n “diffinio gyrfa”. Derbyniodd adolygiadau 5 seren, cyrhaeddodd nifer o restrau “gorau 2018”, cafodd ei chwarae ar orsafoedd radio yn y DU, Ewrop ac Awstralia, ac fe’i ychwanegwyd at nifer o restrau chwarae ar Spotify. Yn 2020 rhyddhawyd pedwerydd albwm Ant - ‘The Sleeper Wakes’ (Edition) a chafodd hwn hefyd ei ganmol gan y beirniaid.
Ant hefyd yw’r “L” yn Trio HLK sy’n recordio/teithio gyda’r Fonesig Evelyn Glennie. Mae wedi gweithio gydag artistiaid nodedig eraill megis Cory Henry, Thomas Gould ac mae wedi cael sylw yng nghylchgronau “Total Guitar”, “Guitar Techniques” a “Guitarist”.
Yn 2016 daeth Art Of Rhythm Trio i’r amlwg gyda Matt Ridley (bas) ac Asaf Sirkis (drymiau a konnakol).
Ers 2010 mae Ant wedi canolbwyntio ar wneud bywoliaeth yn chwarae’r gitâr, gan symud yn y pen draw i Lundain a throchi ei hun yn y sîn yno yn ogystal â theithio’n rhyngwladol. Mae hefyd wedi byw yn Efrog Newydd am dymor lle bu’n astudio gyda’i arwyr Ari Hoenig, Ben Monder, Adam Rogers, Lage Lund, Johannes Weidenmueller, Tim Miller ac eraill.
Yn ogystal â’i waith yn CBCDC, mae Ant yn addysgu ac yn arholi’n rheolaidd yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain. Mae wedi addysgu gweithdai a dosbarthiadau meistr yng Ngholeg Cerdd Leeds, Prifysgol Leeds, Prifysgol Durham University a Phrifysgol Newcastle.