Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

David Francis

Rôl y swydd: Aelod y Bwrdd

Mae David yn Llywodraethwr Annibynnol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau Prifysgol De Cymru.

Mae David yn gyfrifydd siartredig, gyda gyrfa yn ymestyn dros 20 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau cyllid byd-eang mewn corfforaethau mawr yn y DU, gan gynnwys Marks & Spencer a Diageo.

Mae wedi arwain timau cyllid ledled y byd ac mae’n dod ag ystod eang o brofiad ar draws pob agwedd ar y swyddogaeth gyllid, yn amrywio o weithredu systemau a phrosesau a llywodraethu i gyllid a phrisio masnachol, rheolaeth a chydymffurfiaeth, a rheoli perfformiad.

Mae hefyd yn aelod anweithredol o fwrdd Ymddiriedolaeth Brandon, Archwilio Cymru a Hoci Cymru.

Proffiliau staff eraill