Nigel Seaman
Tiwtor Tiwba
Mae’r pianydd a’r cyfansoddwr o Ganada, Douglas Finch, yn adnabyddus am ei waith byrfyfyr unigryw, sydd wedi ymddangos ar raglenni ers yn gynnar yn ei yrfa. Astudiodd yng Nghanada ac Efrog Newydd (William Aide a Beverage Webster), gan ennill Medal Arian yng Nghystadleuaeth y Frenhines Elisabeth ym Mrwsel ym 1978. Ar ôl symud i'r DU, cyd-sefydlodd a chyfarwyddodd The Continuum Ensemble yn Llundain. Mae wedi ysgrifennu llawer o weithiau ar gyfer piano, ensembles a cherddorfa siambr, yn ogystal â cherddoriaeth ar gyfer chwe ffilm nodwedd, yn fwyaf diweddar A Change in the Weather (2017) ac A Clever Woman (2020) gyda’r cyfarwyddwr o Brydain, Jon Sanders. Ymhlith ei weithiau siambr a gomisiynwyd, cafodd dau eu perfformio am y tro cyntaf yn 2018 ac roeddent yn cynnwys offerynnau baróc: Chorale Threnody yn y Vancouver New Music Festival a Twin Stars - Variations of a theme of William Herschel yn ‘Festival of Science: Space’ yn y Royal Albert Hall.
Mae ei recordiadau’n cynnwys CD o’i gerddoriaeth Inner Landscapes: Piano and Chamber Music 1984-2013 gyda’r pianydd Aleksander Szram, ar label Prima Facie a Sound Clouds, sy’n cynnwys darnau byrfyfyr gyda Martin Speake (sacsoffon), ar label Pumpkin.
Mae Douglas yn Athro Piano a Chyfansoddi yn Trinity Laban Conservatoire, lle mae wedi cyfarwyddo sawl digwyddiad mawr, gan gynnwys yr ŵyl ar-lein Preludes to New Lights sy’n cynnwys cerddoriaeth newydd a byrfyfyr wedi’i pherfformio mewn cwarantîn o bob rhan o’r byd.