Darganfod cyrsiau Cefn Llwyfan yn Conservatoire Cenedlaethol Cymru
Cyfle i ennill y sgiliau technegol, creadigol a phroffesiynol i lansio eich gyrfa, gyda’n cyrsiau’n cynnig hyfforddiant ymarferol a nifer o gyfleoedd ar leoliad.
Gweld ein cyrsiau...
Mae ein cyrsiau Cefn Llwyfan yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn a thrwy gydweithio ar draws y Coleg. O ddylunio setiau ac adeiladu pypedau, i ddylunio a chynhyrchu goleuo a sain. Rydym yn ymroddedig i gefnogi eich gyrfa greadigol.
Cyrsiau BA israddedig
BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio
BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol
Cyrsiau sylfaen
Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd
Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd
Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol
cyrsiau ôl-raddedig MA
MA Rheoli Cynyrchiadau
MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau
MA Celf Golygfeydd ac Adeiladu
MA Dylunio a Chynhyrchu Goleuo
MA Dylunio a Chynhyrchu Sain
MA Gwisgoedd ar gyfer Perfformiadau
MA Cynllunio ar gyfer Perfformio
MA Cynllunio Cyfryngau Digidol a Chynhyrchu
MA Dylunio ac Adeiladu Pypedau
Mae’n dechrau yma: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Pum prif reswm pam y dylech astudio yn CBCDC
- Mae ein cyrsiau’n cael eu harwain gan ymarferwyr profiadol – sy’n arbenigwyr yn eu maes – felly gallwch fod yn hyderus bod eich hyfforddiant yn bodloni safonau ac arferion gorau cyfredol y diwydiant.
- Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ymarferol, ymdrochol, waeth beth rydych chi’n dewis ei astudio.
- Byddwch yn cael eich hyfforddi yn y lleoliadau yn ein canolfan gelfyddydau ddeinamig. Byddwch yn gweithio ar berfformiadau cyhoeddus sy’n ceisio adlewyrchu’r amgylchedd gwaith proffesiynol, neu’n gwneud yn siŵr bod eich gwaith yn cael ei arddangos mewn amgylchedd o'r fath.
- Byddwch yn gweithio yn rhai o’r cyfleusterau gorau a mwyaf amrywiol yn y wlad. Mae ein meddalwedd a’n hoffer diweddaraf yn adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y diwydiant, felly gallwch fod yn hyderus yn eich gallu wrth gamu i rolau proffesiynol ar ôl graddio.
- Rydym yn arwain y gad o ran hyfforddi cynllunwyr ar gyfer perfformiadau, gyda’n graddedigion yn mynd ymlaen i ennill Golden Globes, Gwobrau Tony a BAFTAs, a mae ein graddedigion hefyd yn cael eu hanrhydeddu’n rheolaidd yng Ngwobrau mawreddog Linbury am Gynllunio Llwyfan.
Pum rheswm cyffrous i garu Caerdydd
- Dinas fach, uchelgais fawr:
Gyda phoblogaeth o tua 350,000 o bobl, mae Caerdydd yn teimlo fel dref fechan er bod llawer o bethau’n digwydd yn y brifddinas trwy gydol y flwyddyn, o fywyd nos bywiog, i ddigwyddiadau chwaraeon (ie, rygbi!) a cherddoriaeth a gwyliau bwyd - mae’r cyfan yn digwydd yn y ‘Diff!
- Dinas cost-gyfeillgar:
Pleidleisiwyd Caerdydd fel yr ail ddinas fwyaf cost-effeithiol i fyfyrwyr ym Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2023.
- Cysylltiadau trafnidiaeth gwych:
Mae’r rhwydweithiau trenau a bysiau yn ei gwneud hi’n hawdd teithio o gwmpas ac archwilio rhannau eraill o Gymru a’r DU. Mae trenau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Cheltenham, Llundain a Manceinion yn ogystal â llawer o gyrchfannau eraill.
- Mae harddwch naturiol ein cefn gwlad yn chwedlonol:
Mae Cymru’n genedl o fynyddoedd, dyffrynnoedd, coedwigoedd a llynnoedd godidog, ac mae’n ddigon bychan i’w harchwilio’n hawdd - mae yna hefyd reswm y gelwir Cymru yn ‘wlad y cestyll’.
- Mae’n ddiogel i fyfyrwyr:
Mae Caerdydd wedi’i phleidleisio yn un o’r pedair dinas fwyaf diogel i fyw ac astudio ynddi, ac fe’i hystyrir yn lle ‘hawdd’ i fyw. Mae gan Gymru enw da am ei chymuned groesawgar - croeso!
Astudio yng Nghaerdydd
Byw yng Nghaerdydd
Ein campws
Stiwdios Llanisien
Sut helpodd ein hyfforddiant y myfyrwyr hyn i gychwyn ar eu teithiau creadigol
Sarah Hemsley-Cole
Hannah Walters
Debbie Duru
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy