MA Dylunio ac Adeiladu Pypedau
Dyfarniad:
MA Dylunio ac Adeiladu Pypedau
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
RW07 – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Darganfyddwch bob agwedd ar ddylunio a chreu pypedau yn y cwrs hwn sy’n cynnig rôl gynhyrchu sylweddol, ymarferol ochr yn ochr â gweithdai a hyfforddiant arbenigol arall.
Trosolwg o’r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn un o ddwy radd meistr yn unig ar y pwnc yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n cwmpasu pob agwedd ar ddylunio pypedau, gan gynnwys dylunio a saernïo digidol, ac adeiladu sy'n amrywio o fecaneg syml i gymhleth. Byddwch hefyd yn archwilio pypedau ac amrywiaeth o ddulliau perfformio gwahanol.
Bob blwyddyn, rydym yn comisiynu cynhyrchiad dylunio sylweddol a fydd yn rhan greiddiol o’ch hyfforddiant. Byddwch yn ymgymryd â rôl sylweddol yn y cynhyrchiad hwnnw ochr yn ochr â gweithdai ysgol a hyfforddiant arbenigol arall mewn technegau gwneud pypedau traddodiadol, cerflunio, gwneud mowldiau, cerfio, gwehyddu a thechnegau cyfoes o’r radd flaenaf sy’n cynnwys defnyddio peiriannau argraffu 3D, peiriannau CNC a thorwyr laser.
Byddwch yn gweithio gyda’n staff craidd o weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant, i ddatblygu eich sgiliau adeiladu a nodi, ac ehangu ar eich meysydd o ddiddordeb penodol wrth i chi symud ymlaen drwy eich astudiaethau.
Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs hwn. Yn eich lleoliadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu ar y rhai gyda’n partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn dysgu am wahanol ddisgyblaethau creadigol ac yn cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn aelod o dîm cymorth cynhyrchu – y cyfan i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.
Daw'r cwrs i ben gydag arddangosfa gyhoeddus o waith eich carfan yng Nghaerdydd ac yna am bedwar diwrnod ar South Bank yn Llundain, sy'n cynnwys noson diwydiant ar gyfer cynulleidfa o ddarpar gyflogwyr.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Ar y cwrs hwn gyda hyfforddiant ymarferol yn ganolog iddo, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i faes astudio arbenigol uwch ar lefel broffesiynol.
- Drwy amrywiaeth o brosiectau a gwaith dosbarth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion damcaniaethol ac ymarferol dylunio sain ar gyfer theatr, ffilm a theledu – gan eich gwneud yn hynod ddymunol i gyflogwyr.
- Mae ein staff amser llawn a’r darlithwyr sy’n ymweld i gyd yn ymarferwyr sy’n dal i weithio mewn diwydiant, gyda phroffiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Maent yn dod â’r arferion gorau diweddaraf i’ch hyfforddiant.
- Fel rhan o’n cwmni theatr mewnol, gallwch ennill profiad yn y byd go iawn drwy gydol y cwrs a chael dealltwriaeth ddofn o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd perfformio byw. Yn dibynnu ar eich arbenigedd, cewch gyfle i ddylunio pypedau ar gyfer perfformiad hunan-gyfeiriedig, neu weithio fel dylunydd/gwneuthurwr pypedau ar gynhyrchiad Coleg neu allanol.
- Byddwch hefyd yn cael cyfle i sicrhau lleoliadau gyda rhai o’r ymarferwyr a chwmnïau fel Max Humphries, Nick Barnes a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae ein hadran cynhyrchu a dylunio hefyd wedi cynnig lleoliadau gyda chwmnïau theatr ac opera blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig.
- Rydym yn arwain y ffordd ym maes technoleg theatr o’r radd flaenaf, a bydd gennych fynediad at ein holl gyfleusterau, fel ein mannau stiwdio dylunio, gweithdai propiau/siop paentio, stiwdio CAD ddynodedig, argraffyddion 3D, ystafelloedd golygu a gweithdai celf golygfeydd ac adeiladu ar raddfa fawr.
- Mae’r ffaith bod y garfan yn fach a bod lefel uchel o gymorth gan staff yn golygu eich bod chi'n dysgu mewn amgylchedd gwaith diogel sy’n eich meithrin.
- Cynhelir cyflwyniadau dosbarth meistr drwy gydol y cwrs, gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Wedi eu cynllunio i ategu anghenion astudio arbenigol unigol, mae'r dosbarthiadau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad cynhwysfawr o ragoriaeth, ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau wedi eu trefnu â chwmnïau theatr lleol, gan gynnig cipolwg ychwanegol ar y diwydiant wrth ei waith. Pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan.
Gwybodaeth arall am y cwrs
'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy