MA Rheoli Cynyrchiadau
Dyfarniad:
MA Rheoli Cynyrchiadau
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
21 Medi 2025
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
RW11 – UCAS Conservatoires
Cyflwyniad
Ennill yr holl sgiliau trefnu, technegol, ariannol a gwaith tîm sydd eu hangen arnoch i reoli prosiectau a chynyrchiadau'n llwyddiannus o'r dechrau i'r diwedd.
Trosolwg o’r cwrs
O gynllunio teithiau, trosglwyddiadau, amserlenni adeiladu a chynhyrchu i oruchwylio cyllidebau a chynnal asesiadau risg, byddwch yn archwilio agweddau hanfodol ar reoli cynyrchiadau theatr a digwyddiadau byw.
Gan weithio mewn stiwdios, gweithdai a lleoliadau allanol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o’r deunyddiau a’r prosesau a ddefnyddir mewn amgylchedd proffesiynol – gan gynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a Diogelwch a chreu lluniadau technegol mewn CAD.
Bydd dosbarthiadau arbenigol sy’n canolbwyntio ar reoli llwyfan yn rhoi hwb cyflym i’ch gallu i weithio fel rhan o dîm o gynorthwywyr cynhyrchu – neu fel rheolwr cynhyrchu – ar berfformiadau cyhoeddus o’r Coleg.
Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs hwn. Yn eich lleoliadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu ar y rhai gyda’n partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn dysgu am wahanol ddisgyblaethau creadigol ac yn cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn aelod o dîm cymorth cynhyrchu – y cyfan i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.
Daw'r cwrs i ben gydag arddangosfa gyhoeddus o waith eich carfan yng Nghaerdydd ac yna am bedwar diwrnod ar South Bank yn Llundain, sy'n cynnwys noson diwydiant ar gyfer cynulleidfa o ddarpar gyflogwyr.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Ar y cwrs hwn gyda hyfforddiant ymarferol yn ganolog iddo, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i faes astudio arbenigol uwch ar lefel broffesiynol.
- Drwy amrywiaeth o brosiectau a gwaith dosbarth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion damcaniaethol ac ymarferol rheoli cynyrchiadau byw – gan eich gwneud yn hynod ddymunol i gyflogwyr.
- Mae ein staff amser llawn a’r darlithwyr sy’n ymweld i gyd yn ymarferwyr sy’n dal i weithio mewn diwydiant, gyda phroffiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Maent yn dod â’r arferion gorau diweddaraf i’ch hyfforddiant.
- Fel rhan o’n cwmni theatr mewnol, gallwch ennill profiad yn y byd go iawn drwy gydol y cwrs a datblygu dealltwriaeth ddofn o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd perfformio byw. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu cynllun llawn ar gyfer taith genedlaethol, cwblhau lluniadau technegol mewn CAD, ac ymgymryd â rôl arwain uwch wrth reoli cynhyrchiad yn y Coleg (sy'n cynnwys dyletswyddau fel rheoli cyllideb ac asesiadau risg Iechyd a Diogelwch).
- Byddwch hefyd yn cael cyfle i sicrhau lleoliadau gyda rhai o’r prif gwmnïau cynhyrchu, fel Bad Wolf, BBC Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ein hadran cynhyrchu a dylunio hefyd yn cynnig lleoliadau gyda chwmnïau theatr ac opera blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig.
- Rydym yn arwain y ffordd ym maes technoleg theatr o’r radd flaenaf, a bydd gennych fynediad at ein holl gyfleusterau, fel ein mannau stiwdio dylunio, gweithdai propiau/siop paentio, stiwdio CAD ddynodedig, ystafelloedd golygu a gweithdai celf golygfeydd ac adeiladu ar raddfa fawr.
- Mae’r ffaith bod y garfan yn fach a bod lefel uchel o gymorth gan staff yn golygu eich bod chi'n dysgu mewn amgylchedd gwaith diogel sy’n eich meithrin.
- Cynhelir cyflwyniadau dosbarth meistr drwy gydol y cwrs, gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Wedi eu cynllunio i ategu anghenion astudio arbenigol unigol, mae'r dosbarthiadau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad cynhwysfawr o ragoriaeth, ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau.
- Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau wedi eu trefnu â chwmnïau theatr lleol, gan gynnig cipolwg ychwanegol ar y diwydiant wrth ei waith. Pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan.
Gwybodaeth arall am y cwrs
'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy