Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Gwisgoedd ar gyfer Perfformiadau

  • Dyfarniad:

    MA Gwisgoedd ar gyfer Perfformiadau

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r  Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW05 – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i archwilio dylunio a llunio cymeriadau a gwisgoedd arloesol ar gyfer theatr, ffilm a theledu gyda'r hyfforddiant ymarferol hwn yn seiliedig ar ymarfer cydweithredol.

Trosolwg o’r cwrs

Mae’r cwrs ymarferol, ymdrwythol hwn yn dyrchafu eich sgiliau dylunio presennol, gan eich galluogi i ymuno â’r diwydiannau theatr, ffilm a theledu ar lefel uwch.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi, ymchwil a thechnegol mewn rendro digidol a thraddodiadol a llunio cymeriadau. O dan arweiniad eich tiwtoriaid – sydd i gyd yn ymarferwyr ar frig eu maes – byddwch wedyn yn mynd ymlaen i ddylunio a chreu gwisgoedd ar gyfer perfformiadau byw yma yn y Coleg.

Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs hwn. Yn eich lleoliadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu ar y rhai gyda’n partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn dysgu am wahanol ddisgyblaethau creadigol ac yn cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn aelod o dîm cymorth cynhyrchu – y cyfan i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

Daw’r cwrs hwn i ben gyda’ch gwaith yn cael ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghaerdydd ac ar y South Bank yn Llundain, sy’n cynnwys nosweithiau diwydiant ar gyfer cynulleidfa o ddarpar gyflogwyr.

Mae ein graddedigion Gwisgoedd ar gyfer Perfformiadau wedi mynd ymlaen i yrfaoedd fel dylunwyr, gwneuthurwyr gwisgoedd a phropiau gwisgoedd, teilwriaid, hetwyr, goruchwylwyr gwisgoedd, prynwyr, artistiaid dehongli ac ymarferwyr creadigol eraill mewn cwmnïau blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Drwy amrywiaeth o brosiectau a gwaith dosbarth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion damcaniaethol ac ymarferol dylunio ar gyfer theatr, ffilm a theledu – gan eich gwneud yn hynod ddymunol i gyflogwyr. 
  • Drwy brosiectau creadigol sylweddol – fel gwneud gwisgoedd ar gyfer taith gerdded neu berfformiad opera – byddwch yn ymchwilio’n fanwl i’r broses ddylunio, gan ddangos defnydd soffistigedig o’ch sgiliau creadigol.
  • Rydym yn arwain y ffordd ym maes technoleg theatr o’r radd flaenaf yng Nghymru ac mae ein staff amser llawn a’r darlithwyr sy’n ymweld i gyd yn ymarferwyr sy’n dal i weithio yn y diwydiant, gyda phroffiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Maent yn dod â’r arferion gorau diweddaraf i’ch hyfforddiant. 
  • Fel rhan o Gwmni Richard Burton – ein cwmni theatr mewnol o actorion a rheolwyr llwyfan yn y flwyddyn olaf – byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o berfformiadau cyhoeddus yn ystod eich cwrs. Mae cynyrchiadau’r Cwmni yn denu cynulleidfa gyhoeddus fawr yn gyson.
  • Mae lleoliadau gyda chwmnïau fel Bad Wolf, BBC Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig profiad lleol i chi o weithio mewn gweithdai a stiwdios sydd ar flaen y gad ym maes cynhyrchu proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer llwyfan a sgrin. Mae’r adran cynhyrchu a dylunio hefyd yn cynnig lleoliadau gyda chwmnïau theatr ac opera blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig.
  • Mae’r ffaith bod y garfan yn fach a bod lefel uchel o gymorth gan staff yn golygu eich bod chi'n dysgu mewn amgylchedd gwaith diogel sy’n eich meithrin. 
  • Mae'r amgylchedd gwaith yn y Coleg yn adlewyrchu amgylchedd y diwydiannau perfformio, a gallwch drosglwyddo'n ddi-dor i waith gyda hyder yn eich galluoedd. 
  • Cynhelir cyflwyniadau dosbarth meistr drwy gydol y cwrs, gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Wedi eu cynllunio i ategu anghenion astudio arbenigol unigol, mae'r dosbarthiadau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad cynhwysfawr o ragoriaeth, ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau. 
  • Bydd gennych fynediad at ein mannau stiwdio dylunio ar y safle, gweithdai propiau/siop baentio a chyfleusterau wardrob, yn ogystal â stiwdio CAD ddynodedig, ystafelloedd golygu a gweithdai celf golygfeydd ac adeiladu ar raddfa fawr. 
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau wedi eu trefnu â chwmnïau theatr lleol, gan gynnig cipolwg ychwanegol ar y diwydiant wrth ei waith. Pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan. 

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'
Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf