Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Cynllunio Cyfryngau Digidol a Chynhyrchu

  • Dyfarniad:

    MA Cynllunio Cyfryngau Digidol a Chynhyrchu

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r  Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW10 – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Yn y cwrs hwn sy’n canolbwyntio ar greu cynnwys fideo digidol a’i ddefnyddio mewn digwyddiadau perfformio byw – a hefyd archwilio’r potensial i ddatblygu dyluniadau realiti rhithwir a realiti estynedig – byddwch yn gweithio fel gweithiwr creadigol allweddol mewn cynyrchiadau byw a rhithwir ochr yn ochr â goruchwylwyr fideo proffesiynol.

Trosolwg o’r cwrs

Ewch ati i graffu'n fanwl ar gynhyrchu dyluniadau fideo trochi ar gyfer perfformiadau byw a rhithwir sy’n tanio dychymyg cynulleidfaoedd ac sy’n gwthio terfynau posibiliadau technegol. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn creu cynnwys ar gyfer fideo ac yn archwilio technegau mapio fideo wrth ddysgu amrywiaeth o sgiliau cynhyrchu technegol cysylltiedig. Yn dibynnu ar eich arbenigedd - y bydd gennych y rhyddid i'w archwilio yma - cewch gyfle i ddatblygu gwaith sy'n cwmpasu technolegau realiti estynedig (AR) a realiti rhithwir (VR). 

Fel myfyriwr dylunio fideos, byddwch yn gweithio fel gweithiwr creadigol allweddol mewn cynyrchiadau byw a rhithwir yn y Coleg ochr yn ochr â goruchwylwyr fideo proffesiynol sy'n gweithio ar frig eu maes. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r diwydiant drwy leoliadau yn ystod dwy flynedd eich hyfforddiant, gan eich helpu i greu cysylltiadau gwaith ar gyfer y dyfodol.

Mae cydweithio wrth wraidd y cwrs hwn. Yn eich lleoliadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu ar y rhai gyda’n partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn dysgu am wahanol ddisgyblaethau creadigol ac yn cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn aelod o dîm cymorth cynhyrchu – y cyfan i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

Daw’r cwrs i ben gydag arddangosfa gyhoeddus o waith eich carfan yng Nghaerdydd ac yna am bedwar diwrnod ar y South Bank yn Llundain, sy’n cynnwys noson diwydiant ar gyfer cynulleidfa wadd o ddarpar gyflogwyr

Pam astudio’r cwrs hwn?

    • Ar y cwrs hwn gyda hyfforddiant ymarferol yn ganolog iddo, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i faes astudio arbenigol uwch ar lefel broffesiynol.
    • Drwy amrywiaeth o brosiectau a gwaith dosbarth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion damcaniaethol ac ymarferol dylunio ar gyfer theatr, ffilm a theledu – gan eich gwneud yn hynod ddymunol i gyflogwyr.
    • Mae ein staff amser llawn a’r darlithwyr sy’n ymweld i gyd yn ymarferwyr sy’n dal i weithio mewn diwydiant, gyda phroffiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Maent yn dod â’r arferion gorau diweddaraf i’ch hyfforddiant.
    • Fel rhan o’n cwmni theatr mewnol, gallwch ennill profiad yn y byd go iawn drwy gydol y cwrs hwn a datblygu dealltwriaeth ddofn o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd perfformio byw. Cewch gyfle i greu fideo/profiad realiti rhithwir ar gyfer perfformiad neu osodiad hunan-gyfeiriedig, neu weithio fel dylunydd/cynorthwyydd fideo ar gynhyrchiad Coleg neu allanol.
    • Byddwch hefyd yn cael cyfle i sicrhau lleoliadau gyda rhai o’r prif gwmnïau cynhyrchu, fel Bad Wolf, BBC Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ein hadran cynhyrchu a dylunio hefyd yn cynnig lleoliadau gyda chwmnïau theatr ac opera blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig.
    • Rydym yn arwain y ffordd ym maes technoleg theatr o’r radd flaenaf, a bydd gennych fynediad at ein holl gyfleusterau, fel ein mannau stiwdio dylunio, gweithdai propiau/siop paentio, stiwdio CAD ddynodedig, ystafelloedd golygu a gweithdai celf golygfeydd ac adeiladu ar raddfa fawr.
    • Mae’r ffaith bod y garfan yn fach a bod lefel uchel o gymorth gan staff yn golygu eich bod chi'n dysgu mewn amgylchedd gwaith diogel sy’n eich meithrin.
    • Cynhelir cyflwyniadau dosbarth meistr drwy gydol y cwrs, gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Wedi eu cynllunio i ategu anghenion astudio arbenigol unigol, mae'r dosbarthiadau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad cynhwysfawr o ragoriaeth, ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau.
    • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau wedi eu trefnu â chwmnïau theatr lleol, gan gynnig cipolwg ychwanegol ar y diwydiant wrth ei waith. Pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan.

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'
Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf