Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Celf Golygfeydd ac Adeiladu

  • Dyfarniad:

    MA Celf Golygfeydd ac Adeiladu

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r  Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    RW06 – UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Cyfle i archwilio dulliau arloesol o greu setiau, propiau a chefndiroedd ar gyfer y llwyfan a’r sgrin – wrth weithio ar nifer o berfformiadau cyhoeddus – yn y cwrs trochi hwn sy'n gwthio ffiniau gwireddu cynyrchiadau.

Trosolwg o’r cwrs

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn cael mynediad at ein gweithdai cynhyrchu o’r radd flaenaf, gan wella eich sgiliau a mireinio eich maes astudio arbenigol mewn cyfres o brosiectau sy’n seiliedig ar sgiliau.

Gallwch ddilyn llwybrau i’r maes adeiladu, celfyddydau golygfaol neu ddylunio a chreu propiau, gan ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn rheolwr prosiect ar yr un pryd. Pa lwybr bynnag a ddewiswch, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i roi eich gwaith dysgu ar waith, gan weithio gyda'n hadrannau adeiladu golygfeydd i greu pob math o ddeunyddiau ar gyfer cynyrchiadau ein Coleg.

Mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi ei gwreiddio yn yr hyfforddiant, gyda dylunio digidol a defnyddio peiriannau argraffu 3D, peiriannau CNC a thorwyr laser yn rhan greiddiol o’ch set sgiliau. 

Daw'r cwrs i ben gydag arddangosfa gyhoeddus o waith eich carfan yng Nghaerdydd ac am bedwar diwrnod ar South Bank yn Llundain, sy'n cynnwys noson diwydiant ar gyfer cynulleidfa o ddarpar gyflogwyr.

Wrth hyfforddi mewn amgylchedd gwaith bywiog a chefnogol sy’n adlewyrchu’r diwydiant, byddwch yn ymuno â byd gwaith gyda hyder llwyr yn eich sgiliau a’ch galluoedd. Mae ein graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i yrfaoedd ym myd y theatr, dawns, opera, ffilm a theledu, gan weithio fel rheolwyr adeiladu, gwneuthurwyr propiau ac artistiaid golygfeydd.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  •  Ar y cwrs hwn gyda hyfforddiant ymarferol yn ganolog iddo, byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i faes astudio arbenigol uwch ar lefel broffesiynol.
  • Drwy amrywiaeth o brosiectau a gwaith dosbarth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion damcaniaethol ac ymarferol dylunio a gwireddu dyluniadau ar gyfer theatr, ffilm a theledu – gan eich gwneud yn hynod ddymunol i gyflogwyr.
  • Byddwch yn cael eich arwain gan staff amser llawn a darlithwyr gwadd sy’n ymarferwyr blaenllaw gyda phroffiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Gan eu bod yn dal i weithio yn y diwydiant, maent yn dod â’r arferion gorau diweddaraf i’ch hyfforddiant.
  • Mae cydweithio wrth wraidd eich hyfforddiant. Yn eich lleoliadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru neu ar y rhai gyda’n partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn dysgu am wahanol ddisgyblaethau creadigol ac yn cael blas go iawn ar sut beth yw bod yn aelod o dîm cymorth cynhyrchu – y cyfan i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.
  • Mae cyfleoedd i gael profiad yn y byd go iawn yn cael eu cynnal drwy gydol y cwrs hwn.  Fel rhan o’n cwmni theatr mewnol, byddwch yn creu setiau, probiau neu gefndiroedd ar gyfer hyd at dri digwyddiad cyhoeddus, gan roi dealltwriaeth ddofn i chi o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd perfformio byw.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i sicrhau lleoliadau gyda rhai o’r prif gwmnïau cynhyrchu, fel Bad Wolf, BBC Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Bay Productions a Cardiff Theatrical Services. Mae ein hadran cynhyrchu a dylunio hefyd yn cynnig lleoliadau gyda chwmnïau theatr ac opera blaenllaw ledled y Deyrnas Unedig. 
  • Rydym yn arwain y ffordd ym maes technoleg theatr o’r radd flaenaf, a bydd gennych fynediad at ein holl gyfleusterau, fel ein mannau stiwdio dylunio, gweithdai propiau/siop paentio, stiwdio CAD ddynodedig, ystafelloedd golygu a gweithdai celf golygfeydd ac adeiladu ar raddfa fawr. 
  • Mae carfan fach (llai nag wyth fel arfer) a lefel uchel o gymorth gan staff yn golygu y gallwch ddysgu mewn amgylchedd diogel a chefnogol. 
  • Cynhelir cyflwyniadau dosbarth meistr drwy gydol y cwrs, gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw. Wedi eu cynllunio i ategu anghenion astudio arbenigol unigol, mae'r dosbarthiadau hyn yn eich galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad cynhwysfawr o ragoriaeth, ymarfer amlddisgyblaethol a chydweithio ar berfformiadau.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau wedi eu trefnu â chwmnïau theatr lleol, gan gynnig cipolwg ychwanegol ar y diwydiant wrth ei waith. Pan fydd cynyrchiadau mawr yn ymweld â Chaerdydd, byddwn yn ceisio trefnu ymweliadau a threfnu taith neu sgwrs ar gyfer eich carfan. 

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'
Hannah RaybouldRheolwr gweithrediadau Bad Wolf

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf